Trelawnyd
Oddi ar Wicipedia
Mae Trelawnyd yn bentref bychan yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n gorwedd yn y bryniau isel tua hanner ffordd rhwng Diserth i'r gorllewin a Trelogan i'r dwyrain. I'r gogledd ceir pentref Gwaunysgor. Rhed yr A5151 trwy'r pentref.
Ar bwys y pentref i'r gogledd, ceir Y Gop, bryn 250m sydd â lle arbennig yn hanes archaeoleg a chynhanes Cymru. Coronir ei gopa â charnedd anferth, un o'r rhai mwyaf yng Nghymru. Uchder y garnedd yw tua 12 medr ac mae ganddi lled o tua 100 medr. Credir ei bod yn dyddio i Oes yr Efydd.[1]
Ceir yn ogystal ogofâu ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978).
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |