Rwseg
Oddi ar Wicipedia
Rwseg (русский язык russkij jazyk) | |
---|---|
Siaredir yn: | Rwsia a gwledydd eraill y cyn Undeb Sofietaidd |
Parth: | Dwyrain Ewrop a Gogledd Asia |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 145 miliwn fel iaith gyntaf 110 miliwn fel ail iaith |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 8 |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Balto-Slafeg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Rwsia, Belarws, Kazakhstan, Kyrgyzstan, Cenhedloedd Unedig |
Rheolir gan: | Academi Gwyddoniaethau Rwsia |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ru |
ISO 639-2 | ru |
ISO 639-3 | rus |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Slafeg Ddwyreiniol a siaredir yn Rwsia a nifer o wledydd eraill yw Rwseg (neu Rwsieg) (Русский язык). ynganiad ?/i
Hi oedd iaith swyddogol yr Undeb Sofietaidd. Fe'i siaredir gan fwyafrif helaeth poblogaeth Rwsia (142.6 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith, Cyfrifiad Rwsia 2002), gan leiafrifoedd Rwsiaidd a chyfran fawr y boblogaeth ddi-Rwsiaidd mewn nifer o wledydd eraill y cyn Undeb Sofietiadd (Wcráin, Kazakhstan ac ati). Mae niferoedd sylweddol o allfudwyr Rwsiaidd a'u disgynyddion mewn gwledydd y Gorllewin hefyd yn siarad yr iaith. Fe'i defnyddir fel iaith gyffredin (lingua franca) ymysg siaradwyr gwahanol ieithoedd Rwsia, Canolbarth Asia, gwledydd y Cawcasws, Wcráin a Belarws.
[golygu] Geiriau
- Helo: здравствуйте /ˈzdrastvujtʲə/
- Hwyl fawr: до свидания /də sviˈdanjə/
- Os gwelwch yn dda: пожалуйста /paˈʒalustə/
- Diolch: спасибо' /spaˈsibə/
- Noswaith dda: добрый вечер /'dobrɨj 'vʲɛʧər/