Elisabeth I, brenhines Lloegr
Oddi ar Wicipedia
Bu Elisabeth I o Loegr (7 Medi 1533 - 24 Mawrth 1603) yn frenhines Lloegr o 17 Tachwedd 1558 hyd at ei marwolaeth. Ei llysenw Cymraeg oedd 'Sidanes' (mae 'yr hen Sidanes' yn llysenw llai parchus am Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig). Roedd hi'n ferch i Harri VIII, brenin Lloegr a'i wraig Ann Boleyn ac yn chwaer i Edward VI ac i Mari I. Roedd teyrnasiad Elisabeth yn gyfnod cythryblus. Roedd yna gyffro ac anghytuno crefyddol, a llygaid brenhin Ffrainc a brenin Sbaen ar deyrnas Lloegr ac yr oedd Elisabeth yn ddibriod ac yn ddietifedd.
Roedd gan Elizabeth lawer o gynghorwyr cyfrinachol fel William Cecil, Philip Sidney, Robert Devereux, Robert Dudley a Francis Walsingham.
Rhagflaenydd: Mari I |
Brenhines Lloegr 17 Tachwedd 1558 – 24 Mawrth 1603 |
Olynydd: Iago VI & I |