Y Taleban
Oddi ar Wicipedia
Mudiad Pashtunaidd ac iddo ideoleg Islamaidd Swnni biwritanaidd a reolai'r rhan fwyaf o Affganistan o 1996 hyd 2001 yw'r Taleban (Dari: طالبان; myfyrwyr), sydd ar hyn o bryd yn ymladd rhyfel herwfilwrol yn erbyn y lluoedd tramor yn Affganistan a llywodraeth newydd y wlad.
Pan oeddent wrth y llyw yn y wlad, adnabuwyd Emirad Islamaidd Afghanistan yn ddiplomyddol gan dair gwladwriaeth yn unig: yr Emiradau Arabaidd Unedig, Pacistan, a Saudi Arabia. O dan Mwlah Mohammed Omar, arweinydd y mudiad, roedd mwlah yh rheoli pob pentref, y rhan fwyaf ohonynt gyda chefndir o addysg yn ysgolion crefyddol Islamaidd ym Mhacistan. Roedd bron i 98% o aelodau'r Taleban yn Bashtuniaid o dde a dwyrain Affganistan a gogledd-orllewin Pacistan, ond yn eu plith roedd canran bychan o wirfoddolwyr o weddill Ewrasia nad oedd yn Bashtuniaid.
Daeth y Taleban yn ddrwg-enwog am eu triniaeth hallt o fenywod. Gorfodwyd menywod i wisgo'r burqa ar goedd; ni chaniateid iddynt weithio y tu allan i'r cartref; ni chaniateid iddynt gael eu haddysgu ar ôl cyrraedd wyth oed, a than hynny caniateid iddynt astudio'r Coran yn unig; ni chaniateid iddynt gael eu trin gan feddygon gwrywaidd heb warchodwr yn bresennol; a gwynebant chwipio cyhoeddus a'r gosb eithaf am droseddu yn erbyn cyfraith y Taleban, seiliedig ar ddarlleniad llythrennol o'r gyfraith sharia ar ei llymaf.
|
|||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|