Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005
Oddi ar Wicipedia
Cyfres o ffrwydradau bom cydamserol a darodd system cludiant cyhoeddus Llundain yn ystod cyfnod awr frys y bore oedd ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005. Am 8:50 a.m. (BST, UTC+1), ffrwydrodd dri bom o fewn 50 eiliad o'i gilydd ar dri trên London Underground. Ffrwydrodd bedwaredd fom ar fws bron i awr yn hwyrach am 9:47 a.m. yn Sgwâr Tavistock. Arweiniodd y ffrwydradau at chwalfa ddygn o isadeiledd trafnidiaeth a thelathrebu y ddinas am weddill y diwrnod.
Lladdwyd 56 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys y pedwar hunan-fomiwr, ac anafwyd 700. Hyn oedd yr ymosodiad terfysgol mwyaf difrifol yn y Deyrnas Unedig ers i Pan Am Flight 103 cael ei fomio dros dref Lockerbie yn 1988 (a wnaeth lladd 270), a'r cyrch bomio a laddodd y fwyaf yn Llundain ers yr Ail Ryfel Byd.
|
|||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|