Ffrwydradau trenau Madrid 11 Mawrth 2004
Oddi ar Wicipedia
Ymosodiadau bom yn Madrid, 11 Mawrth 2004. Dydd Iau, 11 Mawrth 2004, ffrwydrodd deg bom ar cercanias (trenau lleol) yn ninas Madrid, Sbaen rhwng 07:39 a 07:42 yn y bore. Bu farw 190 o bobl, o leiaf, a chafodd dros 1,800 o bobl eu hanafu.
Ffrwydrodd tair bom, ym mlaen, canol, a thu ôl y trên ym mhrif orsaf y ddinas, Atocha, am 07:39, a hefyd ffrwydrodd pedair bom ar yr un pryd ar drên arall tu allan i orsaf Atocha, yn Calle Téllez. Am 07:41 ffrwydrodd dwy fom ar drên arall yng ngorsaf El Pozo del Tío Raimundo, ac am 07:42 ffrwydrodd un bom ar drên yng ngorsaf Santa Eugenia.
Bu farw'r mwyafrif o'r dioddefwyr yn Atocha/Téllez (89 o bobl), ac El Pozo (67), efo 17 yn Santa Eugenia.
Roedd 41 o'r meirwon yn dod o 13 gwlad dramor -- 15 o Romania, 5 yr un o Ecwador a Pheriw, 4 o Wlad Pwyl, 3 o Colombia, 2 o Hondiwras, ac un yr un o Bwlgaria, Tsili, Ciwba, y Weriniaeth Dominicanaidd, Guinea-Bissau, Ffrainc a Morocco.
[golygu] Pwy oedd ar fai?
Roedd Llywodraeth Sbaen yn beio'r mudiad Basgeg, ETA, ar y dechrau, ond roedd modd yr ymosodiad yn anarferol i ETA -- byddan nhw fel arfer yn rhoi rhybudd, neu yn ymosod ar blismyn neu swyddogion y llywodraeth. Ar 11 Mawrth gyda'r hwyr, dywedodd papur newydd Arabaidd yn Llundain, Al-Quds al-Arabi, eu bod wedi cael e-bost gan rywun yn dweud mai Al Qaeda oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Tri dydd ar ôl yr ymosodiad, collodd Aznar yr etholiad, mewn canlyniad syn.
|
|||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|