Ideoleg
Oddi ar Wicipedia
Ideolegau Gwleidyddol |
---|
Anarchiaeth |
Ceidwadaeth |
Cenedlaetholdeb |
Comiwnyddiaeth |
Democratiaeth Gristnogol |
Democratiaeth gymdeithasol |
Ffasgiaeth |
Ffeministiaeth |
Gwleidyddiaeth werdd |
Islamiaeth |
Natsïaeth |
Rhyddewyllysiaeth |
Rhyddfrydiaeth |
Sosialaeth |
Casgliad neu system o gysyniadau, syniadau a chredoau yw ideoleg. Bathwyd y term gan yr athronydd o Ffrancwr Antoine Destutt de Tracy yn hwyr y ddeunawfed ganrif i ddiffinio "gwyddor syniadau". Maent yn gysyniad unigryw i wleidyddiaeth.
[golygu] Hanes y cysyniad
Daw'r cysyniad modern o ideoleg o waith Karl Marx, Yn ôl Marx, cyfundrefnau ffug o gysyniadau gwleidyddol, cymdeithasol a moesol a ddyfeisir a chynhalir gan y dosbarthau llywodraethol am hunan-les yw ideolegau, e.e. bydd hierarchaethau crefyddol yn cefnogi cyfundrefnau bydd yn cadw'r arweinwyr yn gyfoethog.
Yn yr ugeinfed ganrif datblygodd nodwedd eithafol mewn ideolegau. Mae eu hymlynwyr yn credu bod eu system o theorïau gwleidyddol yn gwbwl anghytûn ag ideolegau eraill – y brif enghraifft o hyn yw comiwnyddiaeth a ffasgiaeth. Tuedda cysyniadau gwleidyddol eraill, megis sosialaeth, democratiaeth, a cheidwadaeth, i fod yn llai gyfyngedig; mae eu dilynwyr yn anghytuno ar rai faterion ond yn cytuno ar eraill.