Virginia
Oddi ar Wicipedia
Talaith yng nghanolbarth arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, ar Gefnfor Iwerydd yw Virginia. Ceir gwastadir arfordirol isel yn y dwyrain sy'n codi i fryniau bychain sy'n arwain i'r Appalachians coediog yn y gorllewin. Ers canrifoedd mae'n enwog am ei thybaco.
Cafodd Virginia ei henwi ar ôl Elisabeth I o Loegr, "y Frenhines Wyryfol". Sefydlwyd y wladfa Seisnig gyntaf yn y Byd Newydd yno gan Cwmni Virginia yn 1607. Tyfodd yn gyflym yn y ddwy ganrif nesaf. Un o'r rhai a denwyd yno oedd y bardd Goronwy Owen, a fu farw yno ar ei blanhigfa fach yn 1769. Roedd yn fagwrfa i sawl un o arweinwyr y Chwyldro Americanaidd, a daeth yn dalaith yn 1788. Roedd 4 allan o 5 arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yn frodorion o Virginia, ond yn ystod Rhyfel Cartref America Richmond oedd prifddinas Cynghreiriad y De; erys yn brifddinas y dalaith heddiw.
|
|||||
---|---|---|---|---|---|
|