Oddi ar Wicipedia
Lleoliad De Dakota yn yr Unol Daleithiau
Mae De Dakota yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n rhan o'r Gwastadeddau Mawr. Mae Afon Missouri yn gwahanu'r Badlands, y Bryniau Duon a'r Gwastadeddau Mawr yn y gorllewin oddi wrth y prairie frwythlon isel yn y dwyrain. Roedd De Dakota yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Gwelid nifer o ryfeloedd rhwng byddin yr Unol Daleithiau a'r llwythau brodorol rhwng y 1850au a'r 1880au, yn arbennig yn ardal y Bryniau Duon lle gorchfygwyd y Seithfed Farchoglu dan Custer ar y Little Big Horn gan y Sioux a'r Cheyenne dan arweinyddiaeth Sitting Bull. Daeth De Dakota yn dalaith yn 1889. Pierre yw'r brifddinas.