Arkansas
Oddi ar Wicipedia
Mae Arkansas yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Afon Mississippi. Mae Afon Arkansas yn torri'r dalaith yn ddau o'r gorllewin i'r dwyrain. Roedd Arkansas yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith yn 1836, ymneilltuodd o'r Undeb yn 1861 a chafodd ei chynnwys eto yn 1868. Little Rock yw'r brifddinas.
|
|||||
---|---|---|---|---|---|
|