Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Gogledd Dakota yn yr Unol Daleithiau
Talaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, ar y ffin â Chanada yw Gogledd Dakota. Mae'n ymrannu'n dair ardal naturiol; dyffryn Afon Goch yn y dwyrain, Iseldiroedd y Canolbarth i'r gorllewin o'r ardal honno, a rhan o'r Gwastadiroedd Mawr yn y gorllewin. Roedd y rhan fwyaf o Ogledd Dakota ym meddiant y pobloedd brodorol tan y 1870au pan gyrhaeddodd y rheilffordd. Roedd yn rhan o Diriogaeth Dakota o 1861 tan 1889 pan gafodd ei gwneud yn dalaith. Bismarck yw'r brifddinas.