See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Hyniaid - Wicipedia

Hyniaid

Oddi ar Wicipedia

Roedd Ymerodraeth yr Hyniaid yn ymestyn o ganolbarth Asia hyd yr Almaen
Roedd Ymerodraeth yr Hyniaid yn ymestyn o ganolbarth Asia hyd yr Almaen

Roedd yr Hyniaid (Lladin: Hunni) yn nifer o bobloedd nomadig, o ganolbarth Asia yn wreiddiol, efallai o'r ardal sy'n awr yn wlad Mongolia. Yn 139 OC, cyfeiriodd Ptolemaus Claudius (Ptolemy) at y Khuni oedd yn byw ar lannau Afon Dnieper. Mae'r hanesydd Armenaidd Moses o Khorene, yn y bumed ganrif, yn cyfeirio at yr Hunni yn byw yn agos at y Sarmatiaid ac yn dweud iddynt gipio dinas Balkh yng nghanolbarth Asia rhwng 194 a 214.

Ymsefydlodd yr Hyniaid yn y gorllewin yn nhalaith Rufeinig Pannonia trwy gytundeb yn 361, ac yn 372 gorchfygasant yr Alaniaid dan eu brenin Balimir. Rhwng tua 400 a 410, ymfudodd llawer o'r Hyniaid tua'r gorllewin. Dan eu brenin enwocaf, Attila, enillasant ymerodraeth fawr. Roedd byddinoedd Attila yn cynnwys cryn nifer o bobloaeth gwahanol, nid Hyniaid yn unig. Roedd yr Hyniaid eu hunain yn enwog yn enwog am eu gallu fel marchogion, ac roedd eu bwa yn fwy effeithiol na'r eiddo eu gwrthwynebwyr.

Yn dilyn marwolaeth Attila, gorchfygwyd ei feibion gan Ardaric ger Afon Nedao yn 454, a daeth Ymerodraeth yr Hyniaid i ben.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -