Harri Potter
Oddi ar Wicipedia
Arwr yn y gyfres o lyfrau sy'n sôn am brofiad yr arwr mewn ysgol dewiniaeth ddychmygol, yw Harri Potter gan J. K. Rowling. Cyhoeddwyd y nofel gyntaf, Harri Potter a Maen yr Athronydd, ym 1997 gan y golygydd Bloomsbury. Sgrifenwyd y llyfrau yn Saesneg, ond cyfieithiwyd nhw i nifer o ieithoedd eraill a gwnaethpwyd ffilmiau am anturiaethau Harri Potter hefyd.
[golygu] Llyfrau
- Harri Potter a Maen yr Athronydd (2003 [cyfieithiad]) ISBN 0747569304
- (Harry Potter and the Philosopher's Stone (1997 [gwaith gwreiddiol]) yn Saesneg)
- Harry Potter and the Chamber of Secrets (1998) (yn Saesneg)
- Harry Potter and the Prisoner of Azkaban (1999) (yn Saesneg)
- Harry Potter and the Goblet of Fire (2000) (yn Saesneg)
- Harry Potter and the Order of the Phoenix (2003) (yn Saesneg)
- Harry Potter and the Half-Blood Prince (2005) (yn Saesneg)
- Harry Potter and the Deathly Hallows (2007) (yn Saesneg)
[golygu] Cyfieithiad i'r Gymraeg
Yr unig un a gyfieithwyd i'r Gymraeg hyd yn hyn yw Harri Potter a Maen yr Athronydd (gan Emily Huws).
Yn fersiwn Cymraeg y nofel, mae’r rhan fwyaf o'r cymeriadau yn cadw eu henwau Saesneg, ond mae gyda rhai cymeriadau, pethau neu leoedd enw Cymraeg gwahanol i'r fersiwn Saesneg, e.e.:
- Dreigo Mallwyd (Draco Malfoy)
- Edeyrn ag Efnisien (Crabbe & Goyle)
- Gringrwn (Gringotts)
- mygl (myglars) (muggle)
- Nefydd Llywelyn (Neville Longbottom)
- Y Proffwyd Dyddiol (The Daily Prophet)
- Y Piwsiwr (Peeves)
- Waldo Waedlyd (the Bloody Baron)
- Wyddost-Ti-Pwy (You-Know-Who)
Enwau'r pedwar Tŷ yn yr ysgol hudoliaeth a dewiniaeth Hogwarts:
- Slafennog (Slytherin)
- Lleureurol (Gryffyndor)
- Wfftipwff (Hufflepuff)
- Crafangfan (Ravenclaw)
Cysylltiadau rhwng byd Harri Potter a Chymru:
- Holyhead Harpies yw un o'r tîmau Quidditch enwocaf ym Mhrydain (a hoff tîm Ginny Weasley).
- Yn y pennod olaf, mae Harri, Ron a Hermione yn cuddio mewn coedwig yng Nghymru.
- Mae rhywogaeth dreigiau yn byw yng Ngymru: y ddraig gyffredin werdd Gymreig.
- Yn 'Prisoner of Azkaban' mae menyw ar y Knight Bus yn gadael Y Fenni.
[golygu] Ffilmiau
- Harry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm) (2001)
- Harry Potter and the Chamber of Secrets (ffilm) (2002)
- Harry Potter and the Prisoner of Azkaban (ffilm) (2005)
- Harry Potter and the Goblet of Fire (ffilm) (2005)
- Harry Potter and the Order of the Phoenix (ffilm) (2007)
- Harry Potter and the Half-Blood Prince (2008)
- Harry Potter and the Deathly Hallows (2010)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.