See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd - Wicipedia

Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd

Oddi ar Wicipedia

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd neu Robin Ddu ap Siencyn neu Robin Ddu Ddewin (fl. 1440 - 1470). Roedd yn frodor o Ynys Môn (amrywiad arall ar ei enw yw Robin Ddu o Fôn).

Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ei hun ar wahân i'r ffaith ei fod yn frodor o Fôn ac iddo ganu i rai o brif deuluoedd Gogledd Cymru tua chanol y 15fed ganrif.

Cedwir tua 90 o gywyddau a briodolir iddo fo ac eraill, ond mae rhai ohonynt yn fwy tebygol o fod yn waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, oedd yn adnabod Robin Ddu. Fel Dafydd Llwyd, canai Robin Ddu gerddi brud sy'n perthyn i draddodiad y Canu Darogan a fu'n arbennig o ffyniannus yng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau pan ddisgwylid y Mab Darogan. Fel sawl brudiwr arall, cefnogai Robin Ddu y Tuduriaid a phleidiodd achos Owain Tudur. Mewn un o gerddi Dafydd Llwyd ceir awgrym o anghydfod rhwng y ddau fardd ynglŷn â dehongli un o'r daroganau. Sut bynnag y bu am hynny, cafodd Robin Ddu enw fel dewin a cheir sawl traddodiad amdano.

Canodd Robin Ddu i rai o deuluoedd mawr y gogledd, yn cynnwys teulu Griffith, y Penrhyn a theulu'r Gloddaeth. Yn Oes y Tywysogion, Gloddaeth oedd un o'r "trefi" canoloesol pwysicaf yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Yn ôl tradoddiad, sefydlwyd plasdy yno gan un Iorwerth Goch o'r Creuddyn, efallai yn y 13eg ganrif. Roedd ei ddisgynydd Gruffudd ap Rhys ap Gruffudd yn byw yno ym 1448. Yn y flwyddyn honno collodd saith o'i blant (pum mab a dwy ferch) i'r Pla. Canodd Robin Ddu farwnad deimladwy i'r saith ynghyd.

[golygu] Cyfeiriadau

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, arg. newydd 1992)
  • Robert Williams, The History and Antiquities of the town of Aberconwy (Thomas Gee, Dinbych, 1835).


Beirdd yr Uchelwyr Iolo
Casnodyn | Wiliam Cynwal | Dafydd ap Gwilym | Dafydd ap Siencyn | Dafydd Gorlech | Deio ab Ieuan Du | Einion Offeiriad | Gronw Gyriog | Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd ap Tudur Goch | Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gutun Owain | Gwerful Fychan | Gwerful Mechain | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Huw Cae Llwyd | Huw Ceiriog | Hywel Cilan | Hywel Ystorm | Ieuan ap Huw Cae Llwyd | Ieuan Brydydd Hir | Ieuan Dyfi | Iolo Goch | Iorwerth ab y Cyriog | Ithel Ddu | Lewys Glyn Cothi | Lewys Môn | Lewys Morgannwg | Llywarch Bentwrch | Llywelyn Goch ap Meurig Hen | Llywelyn Siôn | Mab Clochyddyn | Prydydd Breuan | Tomos Prys | Siôn Phylip | Siôn Tudur | Robert ab Ifan | Robin Ddu ap Siencyn | Rhisierdyn | Rhisiart ap Rhys | Rhys ap Dafydd ab Einion | Rhys Brydydd | Rhys Goch Eryri | Sefnyn | Simwnt Fychan | Siôn Cent | Tudur Aled | Tudur ap Gwyn Hagr | Yr Ustus Llwyd


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -