See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Lewys Glyn Cothi - Wicipedia

Lewys Glyn Cothi

Oddi ar Wicipedia

Un o feirdd Cymraeg mwyaf y 15fed ganrif oedd Lewys Glyn Cothi (tua 1425 - tua 1490). Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a ganai'n rhwydd ac eglur ar sawl mesur.

Taflen Cynnwys

[golygu] Ei fywyd

Ni wyddys fawr dim am Lewys Glyn Cothi ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Arferid credu y cafodd ei enw barddol am iddo fod yn frodor o lannau afon Cothi yn Sir Gaerfyrddin, ond gwyddys erbyn hyn mai frodor o ardal ym mhlwyfi Llanybydder a Llanfihangel-rhos-y-corn, yn yr un sir, sy'n cynnwys fforest frenhinol Glyn Cothi, oedd ef. Ymddengys iddo gael ei geni yno yn y 1420au, efallai tua'r flwyddyn 1425. Gellir dyddio y gerdd olaf ganddo sydd ar glawr i fis Mawrth, 1489, ac felly gellir casglu iddo farw rywbryd yn y blynyddoedd ar ôl hynny, yn y 1490au yn ôl pob tebyg.

Llywelyn oedd ei enw bedydd, ond defnyddiai'r bardd ei hun amryw ffurfiau ar 'Lewys' neu 'Lewis', e.e. Lewys Glyn Cothi (y ffurf amlach) a Lewys y Glyn. Ceir awgrym mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi gwasanaethu ym Mhriordy Caerfyrddin a'i fod wedi derbyn peth addysg yno. Medrai ysgrifennu - camp anghyffredin yn yr Oesoedd Canol - ac mae rhai o'i lawysgrifau wedi goroesi. Roedd yn Lladinwr da hefyd, awgrym arall ei fod wedi derbyn addysg yn y priordy, a fu'n enwog am ei sgriptoriwm.

Credid ar un adeg iddo wasanaethu fel swyddog ym myddin Siasbar Tudur yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond er y gellir derbyn, ar sail un o'i gerddi, iddo fod yn dyst i Frwydr Mortimer's Cross (1461) gyda meibion Gruffudd ap Nicolas, mae'n anhebygol iddo fod yn swyddog. Treuliodd gyfnod ar herw yn ardal Pumlumon ac, yn nes ymlaen, yn Eryri, ar ôl y frwydr dynghedfennol honno. Roedd yn gefnogwr brwd i achos y Lancastriaid ond canodd i rai o gefngowyr y Iorciaid yng Nghymru yn ogystal. Ond "mae'n amlwg hefyd fod buddiannau Cymru'n bwysicach yn ei olwg na llwyddiant unrhyw un o bleidiau Lloegr"[1] ac mae ei wladgarwch a'i gasineb o'r Saeson yn elfennau amlwg yn ei ganu. Dengys ei gerddi ei fod yn gyfarwydd â phob rhan o Gymru, o Fôn i Fynwy, yn llythrennol.

[golygu] Ei gerddi

Cedwir 238 o awdlau a chywyddau gan Lewys Glyn Cothi yn y llawysgrifau. Mae'r rhain yn cynnwys naw o gerddi crefyddol, yn cynnwys awdl nodedig 'I Saint Cymru'. Canodd nifer o gerddi mawl a marwnadau i rai o wŷr amlycaf yr oes yng Nghymru. Roedd ei noddwyr yn cynnwys y Tuduriaid, sef Siasbar Tudur, Edmwnd Tudur, a Harri Tudur, Syr Rhys ap Tomas, a Gruffudd ap Nicolas. Canodd sawl cerdd darogan yn ogystal.

Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, a hynny ers canrifoedd, yw 'Dychan Gwŷr Caer', sy'n seiledig ar brofiadau'r bardd yn y ddinas honno mewn cyfnod pan fu'r Cymry yn cael eu trin fel dinesyddion eilradd. Mae'n cynnwys rhai o'r cwpledi mwyaf miniog ym marddoniaeth Gymraeg. Er enghraifft:

Ni bu faer yng Nghaer anghywirach,
ni bu sersiant waeth na neb gaethach,
ni bu haid ddiawliaid ddelach - eu gwahodd,
ni bu ieir un fodd na brain feddwach,
na gwragedd Llundain garnbuteiniach,
na gwŷr un floneg garnfileiniach,
na meibion gweinion gwannach - yn eu cred,
na merched ar lled yn anlladach,
na llyffaint un fraint, na moch fryntach,
na chwain un lifrai, na chŵn lyfrach,
na phlasau cynddrwg, na ffalsach ddynion,
na thir fwy o ladron, na thref leidrach.[2]

Ymddiddorai'n fawr yn achau'r Cymry yn ogystal, ac mae ei lawysrifau yn cynnwys nodiadau achyddol a lluniau deniadol o arfbeisiau prif deuluoedd Cymru. Gellir ei ystyried felly yn un o herodwyr mawr y cyfnod yn ogystal.

[golygu] Llawysgrifau

Ceir casgliadau pwysig o waith y bardd yn llawysgrifau Peniarth, yn cynnwys llawysgrif Peniarth 109 yn ei law ei hun, Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Hergest ac yn llawysgrifau Llansteffan.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, tud. xxv.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, cerdd 215.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995). Y golygiad safonol o waith y bardd, gyda rhagymadrodd, nodiadau a geirfa.
  • E. D. Jones (gol.), Gwaith Lewis Glyn Cothi: y Gyfrol Gyntaf (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Testun llawysgrif Peniarth 109 yn llaw y bardd ei hun, yn yr orgraff wreiddiol. (Ni chafwyd ail gyfrol).


Beirdd yr Uchelwyr Iolo
Casnodyn | Wiliam Cynwal | Dafydd ap Gwilym | Dafydd ap Siencyn | Dafydd Gorlech | Deio ab Ieuan Du | Einion Offeiriad | Gronw Gyriog | Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd ap Tudur Goch | Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gutun Owain | Gwerful Fychan | Gwerful Mechain | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Huw Cae Llwyd | Huw Ceiriog | Hywel Cilan | Hywel Ystorm | Ieuan ap Huw Cae Llwyd | Ieuan Brydydd Hir | Ieuan Dyfi | Iolo Goch | Iorwerth ab y Cyriog | Ithel Ddu | Lewys Glyn Cothi | Lewys Môn | Lewys Morgannwg | Llywarch Bentwrch | Llywelyn Goch ap Meurig Hen | Llywelyn Siôn | Mab Clochyddyn | Prydydd Breuan | Tomos Prys | Siôn Phylip | Siôn Tudur | Robert ab Ifan | Robin Ddu ap Siencyn | Rhisierdyn | Rhisiart ap Rhys | Rhys ap Dafydd ab Einion | Rhys Brydydd | Rhys Goch Eryri | Sefnyn | Simwnt Fychan | Siôn Cent | Tudur Aled | Tudur ap Gwyn Hagr | Yr Ustus Llwyd


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -