See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Owain Tudur - Wicipedia

Owain Tudur

Oddi ar Wicipedia

Arfau Owain Tudur
Arfau Owain Tudur

Milwr, gŵr llys, a phriod dirgel Catrin o Valois, gweddw Harri V o Loegr, oedd Owain Tudur (c. 1400 - 2 Chwefror, 1461). Tadcu Harri Tudur trwy ei fab Edmwnd Tudur oedd ef. O'i bedwar mab arall y pwysicaf fu Siasbar Tudur, Iarll Penfro a Dug Bedford, a ymgyrchai'n galed i gael Harri Tudur ar orsedd Lloegr. Yr oedd Owain Tudur yn yn o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, canghellor Llywelyn Fawr. Roedd yn perthyn i Duduriad Môn trwy ei dad Maredudd ap Tudur, brawd Rhys ap Tudur a Goronwy ap Tudur a ymynusant ag Owain Glyndŵr yn ei wrthryfel yn erbyn y Saeson. Penmynydd ar Ynys Môn oedd ystâd y teulu.

Taflen Cynnwys

[golygu] Ei ddiwedd

Dienyddiwyd ef yn Henffordd ar orchymyn Edward Iarll y Mers wedi i'r Lancastriaid golli'r dydd ym Mrwydr Mortimer's Cross yn 1461. Yn ôl un croniclydd, nid oedd yn credu y byddai Edward mor ansifilriaidd â'i ddienyddio tan y gwelodd y blocyn pren yn barod iddo.

'Yna dywedodd, "Y pen hwn a osodir ar y blocyn pren a orffwysai gynt yn arffed y frenhines Catrin", a chan gyflwyno ei feddwl a'i galon i Dduw, aeth yn llariaidd i'w dranc.'[1]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Dyfynnir yn David Fraser, Yr Amddiffynwyr (cyfieithiad Cymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Caerdydd, 1967), tud. 223.

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Llyfrau hanes

  • W. Ambrose Bebb, Cyfnod y Tuduriaid (1939)
  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)

[golygu] Ffuglen

  • William Pritchard, Owen Tudur (Caernarfon, 1913). Rhamant hanesyddol seiliedig ar draddodiadau lleol am Owain Tudur ar Ynys Môn.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -