Mulfran
Oddi ar Wicipedia
Mulfran | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Phalacrocorax carbo (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Fulfran (Phalacrocorax carbo), yn aelod o deulu'r Phalacrocoracidae, mulfrain. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia ac yn ymestyn cyn belled ag Awstralia a Seland Newydd. Mae hefyd yn nythu ar afordir dwyreiniol Gogledd America. Enw arall arno yw'r Bilidowcar.
Mae'r Fulfran yn nythu ger glan y môr fel rheol, ar glogwyni neu mewn coed, ond mae nifer gynyddol yn nythu ymhell o'r môr. Adeiledir y nyth o frigau a gwymon fel rheol, ac mae'n dodwy 3 neu 4 wy.
Pysgod yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal trwy nofio o dan y dŵr, un ai ar y môr neu ar lynnoedd ac afonydd. Gall blymio'n ddwfn i'r dŵr a threulio hyd at 30 eiliad dan yr wyneb. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Mae'n aderyn cyfarwydd, yn ddu drosto ac yn aderyn mawr, 77-94 cm o hyd a 121-149 cm ar draws yr adenydd, gyda darn melyn heb blu ar y gwddf. Yn Ewrop rhaid bod yn ofalus i'w wahaniaethu oddi wrth y Fulfran Werdd sy'n edrych yn weddol debyg, ond mae'r Fulfran yn aderyn mwy gyda phig mwy.
Yng Nghymru mae'r Fulfran yn aderyn cyffredin iawn o gwmpas y glannau ac ar lynnoedd.