Aderyn mudol
Oddi ar Wicipedia
Aderyn mudol yw aderyn sy'n teithio'n rheolaidd i wahanol ardaloedd yn ôl y tymhorau. Mae llawer o adar yn symud cannoedd neu filoedd o filltiroedd, er enghraifft mae llawer o adar y tir yn nythu yn y gogledd, rhai cyn belled a'r Arctig, ac yn hedfan tua'r de i dreulio'r gaeaf. Er enghraifft mae llawr o adawr sy'n nythu yng ngogledd Ewrop yn treulio'r gaeaf yn Affrica. Mae rhywfaint o adar sy'n nythu ymhellach i'r de, er enghraifft rhan ddeheuol De America ac Awstralasia, yn mudo tua'r gogledd i ardaloedd cynhesach at y gaeaf, ond nid yw hyn mor gyffredin.
Mae'n fanteisiol i'r adar nythu yn y gogledd, gan fod y dyddiau'n hirach yn yr haf a mwy o gyfle i gael bwyd i'r cywion. Fel mae'r dyddiau'n byrhau maent yn paratoi i fudo tua'r de. Mae rhai rhywogaethau yn fudol neu'n sefydlog yn ôl y rhan o'r byd lle maent yn byw; er enghraifft mae'r Fwyalchen yn mudo tua'r de neu tua'r gorllewin o wledydd Llychlyn, ond nid yw'r Mwyailch sy'n byw ymhellach i'r de yn Ewrop yn mudo.
Gall adar fudo dros bellteroedd llawer llai hefyd, er enghraiift rhywogaethau sy'n nythu yn y mynyddoedd yn symud i dir is ar gyfer y gaeaf.
Mae rhai adar y môr yn aml yn mudo dros filoedd o filltiroedd. Dywedir fod Morwennol y Gogledd yn gweld mwy o olau dydd nag unrhyw beth byw arall, gan ei bod yn medru mudo o gyrion yr Arctig i gyrion yr Antarctig. Modrwywyd un o'r rhywogaeth yma ar Ynysoedd y Farne ar arfordir dwyreiniol Lloegr pan yn gyw, a thri mis ar ôl hedfan am y tro cyntaf roedd yn Melbourne, Awstralia, pellter o dros 22,000 km (14,000 milltir). Credir bod Aderyn-Drycin Manaw a fodrwywyd ar Ynys Enlli yn 1957 wedi teithio dros 8 miliwn km (5 miliwn o filltiroedd) yn ystod ei fywyd hyd yma; roedd yr aderyn yma yn dal yn fyw yn 2004.