München
Oddi ar Wicipedia
Mae München yn ddinas yn ne yr Almaen ac yn briffddinas talaith Bafaria.
Gyda phoblogaeth o 1.36 miliwn yn Rhagfyr 2006, München yw trydydd dinas yr Almaen o ran poblogaeth; dim ond Berlin a Hamburg sy'n fwy. Dim ond 24,000 oedd y boblogaeth yn 1700, ond ers hynny mae'r boblogaeth wedi dyblu bob 30 mlynedd. Mae hefyd yn un o ddinasoedd cyfoethocaf Ewrop. Ysyr yr enw yw "mynachod", ac mae'r ffigwr ar bais arfau'r ddinas yn cynrychioli mynach.
Ceir y sôn cyntaf am y ddinas mewn dogfen yn 1158, pan oedd pobt dros Afon Isar gerllaw mynachdy Benedictaidd. Pan ad-unwyd Bafaria yn 1506 daeth München yn brifddinas, ac yn 1806 daeth yn brifddinas Teyrnas Bafaria. Rhwng y ddau ryfel byd, yn München y cododd y Natsïaid a'u harweinydd Adolf Hitler i amlygrwydd. Yn 1923 ceisiodd ef a'i gefnogwyr gipio grym yma, ond methodd a charcharwyd ef.
Yng nghanol y ddinas mae'r Marienplatz, gyda Neuadd y Ddinas gerllaw. Yr adeilad enwocaf yma yw eglwys gadeiriol Gatholig y Frauenkirche. Mae nifer o dimau peldroed yn y ddinas, yn cynnwys yr enwocaf o glybiau peldroed yr Almaen, FC Bayern Munich. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1972. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am yr Oktoberfest, sydd, er gwaethaf ei enw, yn cael ei gynnal ym mis Medi, gan orffen ar y Sul cyntaf yn Hydref.
[golygu] Pobl enwog o München
- Andreas Baader, 1943 - 1977, chwyldroadwr
- Franz Beckenbauer, ganed 1945, peldroediwr
- Eva Braun, 1910 - 1945, cariad Adolf Hitler
- Leon Feuchtwanger, 1884 - 1958, awdur
- Heinrich Himmler, 1900 - 1945, prif awdur yr Holocost.
- Josef Dieter 'Sepp' Maier, ganed 1944, peldroediwr
- Gerhard 'Gerd' Müller, ganed 1945, peldroediwr
- Carl Orff, 1895 - 1982, cyfansoddwr
- Franz Josef Strauß, 1915 - 1988, Arlywydd Bafaria
- Richard Strauss, 1864 - 1949, cyfansoddwr