Yr Holocost
Oddi ar Wicipedia
Yr Holocost (o'r Groeg holókauston, o holon "yn llwyr" a kauston "llosg"), hefyd Ha-Shoah (Hebraeg: השואה), yw'r term a ddefnyddir am ladd tua chwe miliwn o Iddewon Ewropeaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel rhan o raglen fwriadol o hil-laddiad gan y Natsïaid.
Lladdwyd nifer fawr o bobloedd a grwpiau eraill gan y Natsiaid hefyd, yn cynnwys y Roma, carcharorion rhyfel o'r Undeb Sofietaidd, pobl hoyw a phobl anabl, Tystion Jehovah ac eraill. Mae rhywfaint o anghytundeb ymysg ysgolheigion a ddylid cynnwys y rhain yn y term "Holocost", neu a ddylid ei ddefnyddio am yr Iddewon yn unig.
Dechreuodd yr erlid ar yr Iddewon yn raddol wedi i'r Natsiaid ddod i rym. Ar y dechrau. cyfyngwyd ar hawliau Iddewon gan ddeddfau megis Deddfau Nuremberg, yna gorfodwyd Iddewon i symud i ghettoau ac yn ddiweddarach i wersylloedd. Erbyn y 1940au roedd gwersylloedd difa megis Auschwitz a Treblinka wedi eu sefydlu, lle lladdwyd miliynau trwy ddefnyddio nwy a dulliau eraill. Credir i 1.4 miliwn o bobl gael eu lladd yn Auschwitz yn unig, a thuag 800,000 yn Treblinka. Cysylltir y rhaglen yma yn arbennig â Heinrich Himmler a'r SS.
Er bod y nifer o 6 miliwn o Iddewon a laddwyd yn yr Holocost yn cael ei dderbyn gan bron bob ysgolhaig, ceir dadlau chwyrn ar adegau pan fo rhywrai un ai'n gwadu fod yr Holocost wedi digwydd neu'n hawlio fod y nifer a laddwyd yn llawer llai na'r ffigwr yma. Enghreifftiau adnabyddus o hyn yn y blynyddoedd diwethaf yw'r hanesydd o Sais, David Irving a Mahmoud Ahmadinejad, arlywydd Iran.