Eva Braun
Oddi ar Wicipedia
Eva Braun (6 Chwefror, 1910 - 30 Ebrill, 1945) oedd meistres Adolf Hitler. Roedd hi'n enedigol o Munich yn Bafaria, de'r Almaen. Roedd hi'n ysgrifenyddes i ffotograffwr ar staff Hitler ac ar ôl peth amser dechreuodd hi fod yn feistres i Hitler. Am ddeuddeg mlynedd neu ragor roedd hi'n ganolog i fywyd personol yr unben, yn ôl tystion o'r cyfnod. Ymddiddorai mewn tynnu lluniau ("y Ferch Rollei" oedd ei llysenw, ar ôl y camerau Rollei) ac mae cyfran fawr o'r lluniau o fywyd personol Hitler yn ffrwyth ei difyrwaith. Roedd hi hefyd yn hoff o dorheulio'n noethlymun (roedd noethlymiaeth yn boblogaidd iawn yn yr Almaen yn y cyfnod Natsïaidd). Lladdodd ei hun, gyda Hitler, yn y byncer yn Berlin ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae rhai haneswyr yn deud bod Eva Braun a Hitler wedi priodi cyn y diwedd.