See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Gwain - Wicipedia

Gwain

Oddi ar Wicipedia

Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau Ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. ofari, neu wygell
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. ffornics
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws

Tiwb sy'n arwain o'r organau cenhedlu allanol i'r groth mewn mamal benywaidd yw'r wain neu'r fagina (o'r Lladin uāgīna).

Taflen Cynnwys

[golygu] Anatomeg

Mae gwain dynes oddeutu 10cm o hir, a chanddi diamedr oddeutu 25mm (er fod llawer o amrywiant o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na phidyn cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o elastigaidd, sy'n galluogi genedigaeth a chyfathrach rywiol. Cysyllta gyda'r fwlfa ar y tu allan, a cheg y groth ar y tu fewn. O ystyried dynes yn sefyll, mae'r fagina a'r groth yn ffurfio ongl o dua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'r clitoris ac agoriad yr wrethra. Tu allan i'r wain, mae'r labia a churn frasderog a gelwir y mons pubis. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg i bilenni mwcws mewnol eraill.

Darperir llithrigaeth faginaidd gan chwarennau Bartholin a lleolir yn dau ben y wain, ac mae rhywfaint o hylif yn croesi'r mur faginaidd yn ogystal (er nad oes chwarennau arno).

Mewn merched ifanc, mae'r hymen yn gorchuddio rhan o agoriad y wain, nes iddi gael ei rhwygo trwy gyfathrach rywiol, ymarfer corff brwysg, neu rhyw weithgaredd arall. Dylid nodi nad yw cyfathrach rywiol yn rhwygo'r hymen o reidrwydd, felly mae'r cysylltiad traddodiadol rhwng yr hymen a wyryfdod (e.e. yr hen enw Cymraeg, pilen forwyn) yn ofergoelol braidd.

[golygu] Swyddogaeth

O safbwynt biolegol, mae'r swyddogaethau canlynol gan y wain:

[golygu] Gweithgaredd Rhywiol

Fe all y crynhoad o derfyniadau nerfol o gwmpas agoriad y wain darparu ymdeimlad pleserus yn ystod gweithgareddau rhywiol. Gall gweithgaredd o'r fath fod yn gyfathrach anghyfunrhyw, symyliad gyda'r dwylo neu gyda ffugbidlen. Lleolir ardal a gelwir y man-G ar fur blaen y wain, oddeutu 5cm o'r agoriad; gall rhai merched profi pleser angerddol tu hwnt wrth i'r man-G cael ei symbylu. Honir fod orgasm man-G yn gallu arwain at alldafliad benywaidd.

[golygu] Iechyd a hylendid faginaidd

Mae'r wain yn organ sy'n llnau ei hun, ac nid oes angen triniaeth arbennig arni.

Archwilir y wain weithiau am resymau meddygol.

Ymysg yr afiechydon a all effeithio'r wain mae cancr y wain a heintiad burum.

[golygu] Gweler hefyd

Mae heol yng Nghaerdydd o'r enw Ffordd Pen y Wain.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -