Teyrnasoedd Cymru
Oddi ar Wicipedia
Erthyglau ynglŷn â Hanes Cymru |
Cyfnodau |
Cyfnod y Rhufeiniaid · Oes y Seintiau |
Prif deyrnasoedd |
Pobl allweddol |
O. M. Edwards · Gwynfor Evans |
Pynciau eraill |
Cantrefi a chymydau · Cynulliad · Datgysylltu'r Eglwys |
Yn yr Oesoedd Canol cynnar gwelid sawl teyrnas annibynnol Gymreig yn blodeuo yng Nghymru, ond erbyn Oes y Tywysogion roedd teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth yn dominyddu.
[golygu] Y teyrnasoedd
- Teyrnas Brycheiniog, a'i thiriogaeth yn cyfateb yn fras i Frycheiniog, de-ddwyrain Cymru.
- Teyrnas Ceredigion, a sefydlwyd gan Geredig fab Cunedda yng ngorllewin Cymru.
- Teyrnas Deheubarth, yn ne-orllewin Cymru, ail i deyrnas Gwynedd yn unig yn Oes y Tywysogion.
- Teyrnas Dogfeiling, mân deyrnas yng ngogledd-dwyrain Cymru.
- Teyrnas Dyfed, teyrnas gynnar ar diriogaeth y Demetae, seiliedig ar Benfro.
- Teyrnas Erging, un o deyrnasoedd cynnar y de-ddwyrain a ddaeth yn rhan o Deyrnas Gwent ac wedyn Swydd Henffordd.
- Teyrnas Glywysing, un o deyrnasoedd cynnar de-ddwyrain Cymru.
- Teyrnas Gwent, un o deyrnasoedd cynnar y de-ddwyrain, cysylltiedig â'r Silwriaid a chylch Arthur.
- Teyrnas Gwynedd, a sefydlwyd gan Cunedda o'r Hen Ogledd ac a dyfodd i fod y deyrnas Gymreig grymusaf yn Oes y Tywysogion.
- Teyrnas Gŵyr, teyrnas fechan yn ne-orllewin Cymru, seiliedig ar benrhyn Gŵyr.
- Teyrnas Morgannwg, teyrnas grymusaf de Cymru cyn dyfodiad y Normaniaid.
- Teyrnas Powys, un o dair teyrnas rymusaf y wlad cyn iddi ymrannu yn y 12fed ganrif:
- Powys Fadog, rhan ogleddol hen deyrnas Powys
- Powys Wenwynwyn, rhan ddeheuol yr hen Bowys
- Teyrnas Rhos, un o fân deyrnasoedd cynnar y Berfeddwlad a ddaeth yn rhan o Wynedd.
- Teyrnas Seisyllwg, yn ne-orllewin Cymru, fu'n bodoli o tua 730 hyd 920.
[golygu] Gweler hefyd
Teyrnasoedd Cymru | |
---|---|
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg |