Powys Fadog
Oddi ar Wicipedia
Powys Fadog neu Powys Maelor oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, Owain Cyfeiliog, y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw Powys Wenwynwyn yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, Gruffudd Maelor I y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, Madog ap Gruffudd Maelor.
Derbyniodd Gruffudd Maelor I gantrefi Maelor ac Iâl fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu Nanheudwy, Cynllaith, Glyndyfrdwy a Mochnant. Pan orchfygwyd Gwynedd gan Edward I yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn Sir Ddinbych a Sir Fflint. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, Gruffudd Fychan I, gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r Mers yn hytrach na thywysogion.
[golygu] Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog
- 1160–1191 Gruffudd Maelor I
- 1191– 1236 Madog ap Gruffudd Maelor
- 1236–1269 Gruffudd Maelor II, Arglwydd Dinas Brân
- 1269–1277 Madog II ap Gruffudd, Arglwydd Dinas Brân
- 1277–1289 Gruffudd Fychan I, Arglwydd Dinas Brân
- 1289–1304 Madog Crypl, Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
- 1304–c.1325 Madog Fychan, [neu efallai Gruffudd ap Madog Crypl], Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
- c.1325–1369 Gruffudd Fychan II, Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
- 1359–c.1416 Owain Glyndŵr (Owain ap Gruffudd), Arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith Owain
Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.
[golygu] Cantrefi a chymydau Powys Fadog
Sylwer nad arosodd pob un o'r cantrefi a chymydau hyn yn rhan o Bowys Fadog.
- Dinmael
- Edeirnion
- Iâl
- Maelor
- Mochnant (Mochnant Is Rhaeadr)
- Penllyn
- Is Tryweryn
- Uwch Tryweryn
- Swydd y Waun
- Ystrad Alun