Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Erthyglau ynglŷn â Hanes Cymru |
Cyfnodau |
Cyfnod y Rhufeiniaid · Oes y Seintiau |
Prif deyrnasoedd |
Pobl allweddol |
O. M. Edwards · Gwynfor Evans |
Pynciau eraill |
Cantrefi a chymydau · Cynulliad · Datgysylltu'r Eglwys |
Gellid dadlau fod yr ugeinfed ganrif yng Nghymru yn gyfnod a welodd fwy o newid yn y wlad nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei hanes.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gwleidyddiaeth
Yn chwarter cyntaf y ganrif roedd Cymru yn wlad Ryddfrydol o ran ei gwleidyddiaeth a daeth David Lloyd George, AS Caernarfon, yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol a phrif weinidog y DU. Ond bu newid yn hinsawdd gwleidyddol y wlad ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r Blaid Lafur oedd y blaid rymusaf yng Nghymru o'r 1930au ymlaen gyda'i chadarnloedd yn y De a'r gogledd-ddwyrain. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925 ond araf fu ei thwf tan y 1960au pan etholwyd Gwynfor Evans yn AS Caerfyrddin yn 1966. Dyma'r cyfnod a welodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith hefyd, mudiad a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn y frwydr i ennill cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith Gymraeg. Bu newid mawr ym myd sefydliadau gwleidyddol Cymru hefyd gyda sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1964, a'r broses datganoli a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 gyda llywodraeth Llafur mewn grym.
[golygu] Diwydiant
Erbyn 1911 roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y rheilffyrdd ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r ugeinfed ganrif disodlwyd haearn gan dur fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Yr oedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith copr yn 1911 ac 21,000 mewn gwaith tun. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blat tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o lo yn 1913. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo y byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo y de a'r gogledd-ddwyrain.
Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig yn y meysydd glo. Yn 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn 1960 dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn 1979. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au.
Roedd dirywiad tebyg yn y diwydiant dur ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwy fwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth.
Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd trychineb Aberfan, pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.
[golygu] Iaith a diwylliant
Yn 1911 roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad Cymraeg. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o Cymry ifainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf, llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd Dirwasgiad Mawr y 1930au ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng 1921 a 1939.
[golygu] Crefydd
Ar droad y ganrif yr oedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o eglwys. Yn 1900 roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd 158,111 o aelodau, yr Annibynwyr 144,000 a'r Bedyddwyr 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlun o ddirywiad enbyd a geir.
[golygu] Rhai uchafbwyntiau
- 1900 - Streic Chwarel y Penrhyn, Bethesda; ethol Keir Hardie yn AS Llafur Annibynnol ym Merthyr Tudful.
- 1904 - Diwygiad 1904 yn ysgubo'r wlad.
- 1907 - Sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Adran Gymreig y Bwrdd Addysg.
- 1910 - Terfysgoedd mawr yn Nhonypandy, de Cymru.
- 1912 - Cyhoeddi The Miners' Next Step, pamffled sosialaidd ddylanwadol iawn.
- 1913 - Tanchwa Senghennydd yn lladd 439 o lowyr; cyhoeddi Welsh Grammar John Morris-Jones.
- 1914-18 - Nifer fawr o Gymry ifainc yn colli eu bywydau - "y Genhedlaeth Goll" - yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
- 1916 - Lloyd George yn Brif Weinidog Prydain.
- 1920 - Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru; Coleg Prifysgol Cymru Abertawe yn agor.
- 1922 - Y Blaid Lafur yn cipio hanner y seddi seneddol yn y wlad; sefydlu Urdd Gobaith Cymru.
- 1925 - Sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.
- 1926 - Y Streic Gyffredinol.
- 1930au - Y Dirwasgiad Mawr yn effeithio ar Gymru: 38% o ddynion heb waith ar ei waethaf (1932).
- 1934 - Trychineb Gresffordd.
- 1936 - Llosgi Ysgol Fomio Penyberth gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams.
- 1937 - Y BBC yn agor adran ranbarthol yng Nghymru, rhagflaenydd BBC Cymru.
- 1939 - Agor yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth.
- 1939-45 - Yr Ail Ryfel Byd. Bomiau'n disgyn ar Abertawe a Chaerdydd.
- 1941 - Undeb Cymru Fydd.
- 1947 - Gwladoli'r diwydiant glo; sefydlu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
- 1951 - Lansio'r Ymgyrch Senedd i Gymru.
- 1955 - Cyhoeddi Caerdydd yn brifddinas swyddogol y wlad.
- 1962 - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
- 1964 - Sefydlu'r Swyddfa Gymreig; James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- 1966 - Ethol Gwynfor Evans yn AS Caerfyrddin; trychineb Aber-fan; lansio Merched y Wawr.
- 1967 - Pasio Deddf yr Iaith Gymraeg.
- 1969 - Helynt yr Arwisgiad yn Nghastell Caernarfon.
- 1971 - Sefydlu'r Mudiad Ysgolion Meithrin.
- 1973 - Adroddiad Comisiwn Kilbrandon yn argymell Cynulliad i Gymru.
- 1974 - Newid mawr yn llywodraeth leol Cymru wrth i'r hen siroedd traddodiadol wneud ffordd i wyth sir fawr newydd.
- 1979 - Refferendwm yn gwrthod Cynulliad.
- 1982 - Agor S4C. Rhyfel y Falklands.
- 1983 - Y Ceidwadwyr yn cael eu canlyniadau gorau yn y ganrif gyda 15 sedd.
- 1983 - Streic y Glowyr
- 1999 - Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Stadiwm y Mileniwm.