Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Erthyglau ynglŷn â Hanes Cymru |
Cyfnodau |
Cyfnod y Rhufeiniaid · Oes y Seintiau |
Prif deyrnasoedd |
Pobl allweddol |
O. M. Edwards · Gwynfor Evans |
Pynciau eraill |
Cantrefi a chymydau · Cynulliad · Datgysylltu'r Eglwys |
Yn hanes Cymru, roedd yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru yn adeg pan ddaeth annibynniaeth wleidyddol y Cymry i ben. Ar ôl i Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, gael ei fradychu a'i ladd yn Nghilmeri yn 1282 daeth y wlad dan reolaeth Edward I, Brenin Lloegr. Adeiladodd Edward gestyll ar hyd arfordir Cymru mewn cylch haearn o gwmpas y wlad â chafodd ei fab Edward ei arwisgo yn Dywysog Cymru.
Yn y 15fed ganrif cafwyd gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond ni lwyddodd i ailsefydlu teyrnas annibynnol ond am gyfnod byr. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno cafwyd Rhyfeloedd y Rhosynnau yn Lloegr a effeithiodd yn fawr ar Gymru. Yn 1485 ddaeth Harri Tudur i'r orsedd ar ôl curo Rhisiart III ym Mrwydr Maes Bosworth a dechreuodd cyfnod y Tuduriaid.
[golygu] Rhai uchafbwyntiau
- 1282-1283 - Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru, lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf a dienyddio ei frawd Dafydd a meddianu Cymru gan Edward I o Loegr. Edward yn gorchymyn codi cylch o gestyll o amgylch y wlad, e.e. Castell Caernarfon a Castell Conwy.
- 1284 - Statud Rhuddlan yn trefnu Tywysogaeth Cymru a gosod y sylfeini ar gyfer system o siroedd.
- 1294-1296 - Gwrthryfel Cymreig dan arweiniad Madog ap Llywelyn ac eraill, yn y de a'r gogledd.
- 1301 - Cyhoeddi Edward, mab 17 oed Edward I, yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon.
- 1316 - Gwrthryfel Llywelyn Bren yn y De.
- tua 1330 - Gramadeg Einion Offeiriad yn rhoi trefn ar y Pedwar Mesur ar Hugain.
- 1348-1350 - Y Pla Du yn difrodi Cymru gan achosi marwolaethau niferus ac anhrefn gymdeithasol.
- 1369-1377 - Y Cymry yn disgwyl gweld Owain Lawgoch yn dod o Ffrainc, fel y Mab Darogan hir-ddisgwyliedig, i ryddhau'r wlad o afael y Saeson.
- 1400 - Cychwyn gwrthryfel Owain Glyndŵr
- 1402 - Deddfau Penyd yn erbyn y Cymry yn cael eu llunio gan Senedd Lloegr.
- 1404 - Senedd Machynlleth.
- 1405 - y Cytundeb Tridarn rhwng Owain Glyndŵr a'i gynghreiriad Henry Percy ac Edmund Mortimer.
- 1406 - Senedd Pennal.
- 1409 - Castell Harlech yn syrthio i'r Saeson.
- c.1415 - Diflannu Owain Glyndŵr.
- c.1451 - Eisteddfod Caerfyrddin o dan nawdd Gruffudd ap Nicolas.
- 1461 - Brwydr Mortimer's Cross gyda nifer o Gymry yn cymryd rhan ond plaid yr Iorciaid yn ennill y dydd.
- 1471 - Sefydlu Cyngor y Gororau yn Llwydlo gan Edward IV o Loegr.
- 1485 - Harri Tudur yn glanio yn Aberdaugleddau ac yn recriwtio Cymry ; trechu Rhisiart III o Loegr ganddo ym Mrwydr Bosworth
[golygu] Llyfryddiaeth
- A. D. Carr, Owain of Wales : the End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991)
- R. R. Davies, The Age of Conquest. Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0198201982
- R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)