Powys Wenwynwyn
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Powys Wenwynwyn yn dywysogaeth Gymreig a fodolai yn ei therfynnau o ail hanner y 12fed ganrif hyd chwarter cyntaf y 13eg ganrif. Er byrred ei pharhad, chwareai ran bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol.
Yn 1160, ar farwolaeth Madog ap Maredudd, rhanwyd hen deyrnas Powys yn ddwy ran. Etifeddodd un o feibion Madog, Owain Cyfeiliog ran ddeheuol y deyrnas. Cantref Cyfeiliog oedd canolfan ei rym. Ar ei farwolaeth ef pasiodd y dywysogaeth i ddwylo ei fab Gwenwynwyn ab Owain (1195 – 1216), a daethpwyd i adnabod y deyrnas fel Powys Wenwynwyn mewn cyferbyniaeth â'r rhan ogleddol, Powys Fadog.
Mathrafal, hen lys brenhinoedd Powys yng nghantref Caereinion, oedd canolfan y dywysogaeth, ond yn ddiweddarach symudwyd y llys i'r Trallwng pan ochrodd Gwenwynwyn â brenin Lloegr. Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond bregus fu ei afael ac am y rhan fwyaf o'r amser bu Powys Wenwynwyn ym meddiant tywysogion Gwynedd. Gyda chwymp Gwynedd yn 1283 nid adferwyd Powys Wenwynwyn, a chael ei hymrannu'n fân aglwyddiaethau neu ddod i feddiant Coron Lloegr fu ei thynged.
[golygu] Tywysogion
- Owain Cyfeiliog
- Gwenwynwyn ab Owain
- Gruffudd ap Gwenwynwyn
- (de jure: Llywelyn ab Iorwerth a Llywelyn ap Gruffudd)
- Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn; ildiodd ei hawl i'r dywysogaeth a daeth yn un o arglwyddi'r gororau
[golygu] Cantrefi a chymydau
- Arwystli
- Caereinion
- Cedewain
- Cyfeiliog (ar ddiwedd yr Oesoedd Canol creuwyd cmwmd Mawddwy o ran o Gyfeiliog)
- Deuddwr
- Gorddwr
- Llannerch Hudol
- Mechain
- Mochnant Uwch Rhaeadr, rhan o gantref Mochnant (aeth Mochnant Is Rhaeadr i Bowys Fadog)
- Ystrad Marchell, lle codwyd Abaty Ystrad Marchell