Ysgrech y Coed
Oddi ar Wicipedia
Ysgrech y Coed | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Garrulus glandarius (Linnaeus, 1758) |
Mae Ysgrech y Coed neu Sgrech y Coed (Garrulus glandarius) yn aelod o deulu'r brain. Mae'n nythu trwy ran helaeth o Ewrop, Asia a gogledd-orllewin Affrica.
Gellir adnabod yr aderyn yn hawdd, er fod amryw o is-rywogaethau sy'n amrywio cryn dipyn. Mae'r corff yn liw pinc gyda plu glas tarawiadol iawn ar yr adain, ac mae darn gwyn mawr uwchben y gynffon sy'n amlwg iawn pan mae'r aderyn yn hedfan. Mae'r alwad yn nodweddiadol hefyd, ysgrech sy'n rhoi ei enw i'r aderyn. Gall hefyd ddynwared adar eraill.
Ceir Ysgrech y Coed mewn coedwigoedd neu lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwydo mewn coed ac ar lawr, ac mae mês yn rhan bwysig o'i fwyd. Gall hefyd fwyta pryfed, aeron, wyau a chywion adar eraill, malwod, llygod ac amrywiaeth o bethau eraill. Mae'n nythu mewn coeden ac yn dodwy 4-6 wy.
Mae Ysgrech y Coed yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.