Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
Oddi ar Wicipedia
Mae "CBE", "DBE", "MBE" ac "OBE" i gyd yn ail-gyfeirio yma. Am ddefnyddiau eraill o'r term gweler CBE (gwahaniaethu), DBE (gwahaniaethu), MBE (gwahaniaethu) neu OBE (gwahaniaethu)
Trefn urddas marchog Prydeinig ydy Trefn Arbennig yr Ymerodraeth Brydeinig (Saesneg: The Most Excellent Order of the British Empire) a sefydlwyd ar 4 Mehefin 1917 gan Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig. Mae'r drefn yn cynnwys pump dosbarth o raniadau dinesig a milwrol; yn nhrefn y pwysicaf gyntaf:
- Marchog y Groes Fawr neu Bonesig y Groes Fawr) (Saesneg: Knight Grand Cross neu Dame Grand Cross) (GBE)
- Marchog Cadlywydd' neu Bonesig Cadlywydd (Saesneg: Knight Commander or Dame Commander) (KBE or DBE)
- Cadlywydd (Saesneg: Commander (CBE)
- Swyddog (Saesneg: Officer) (OBE)
- Aelod (Saesneg: Member) (MBE).
Dim ond y ddwy urdd uchaf sy'n galluogi i'r derbynnydd ddod yn aelod o'r urdd marchog, gan roi'r hawl iddynt ddefnyddio'r teitl 'Syr' (gŵr) neu 'Bonesig' (benyw) o flaen eu henwau, cyn belled â'u bod yn enedigol o wlad y mae Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig yn bennaeth gwladwriaeth arni. Os nad ydynt, gallent ddefnyddio'r enw'r urdd yn eu henwau ond nid y teitlau.
Mae hyn yn berthnasol hefyd i'r British Empire Medal, nid yw derbynnwyr o'r fedal honno yn aelodau o'r drefn, ond mae perthynas gyda'r drefn. Ni wobrwyir y fedal hon bellach yn y Deyrnas Unedig na'i gwledydd dibynadwy, ond mae'r Ynysoedd Cook a rhai Gwledydd y Gymanwlad yn dal iw gwobrwyo.
Arwyddair y drefn yw I Dduw a'r Ymerodraeth. Hon yw'r drefn lleiaf pwysig Prydeinig, ac mae ganddi fwy o aelodau nac unrhyw drefn arall.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlodd Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig y drefn i lenwi gwagle yn Nhrefn anrhydeddau Prydeinig: The Most Honourable Order of the Bath a wobrwywyd i swyddogion uwch filwrol yn unig a gweinyddion dinasol; The Most Distinguished Order of St Michael and St George a anrhydeddodd llysgenaid; a Treffn Frenhinol Fictorianaidd a anrhydeddodd pobl a oedd wedi gweinyddu'r Teulu Frenhinol yn bersonol. Bwriad pennaf y brenin oedd i anrhydeddu'r miloedd o bobl a weinyddodd o fewn sawl ffurf answyddogol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un dosbarth oedd gan y drefn yn wreiddiol, ond yn 1918, yn fuan wedi ei sefydliad, rhannwyd hi'n swyddogol i raniadau Milwrol a Dinesig.
Mae trefn y Farchogath yn fwy gweriniaethol na threfnau anghynhwysol Bath neu San Michael a San Siôr, ac yn ei dyddiau cynnar, ni deilwyd hi mewn cyfrifiaeth uchel. Newidiodd hyn drost y blynyddoedd.
[golygu] Cyfansoddiad
Mae'r Frenhiniaeth Brydeinig yn Dofren y Drefn, ac yn swyddogi pob aelod arall y Drefn (yn arferol, ar gyngor y llywodraeth).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
[golygu] Gwisgoedd ac offer
Mae aelodau'r drefn yn gwisgo gwisgoedd llafurfawr ar ddigwyddiadau arbennig (megis gwasanaethau quadrennial a choronni), sy'n newid o ran dosbarth (gwnaethwyd newidiadau mawr i ddyluniad y gwisgoedd yn 1937) Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
[golygu] Capel
Capel y drefn yw crypt dwyreiniol Prifeglwys San Paul, ond deilir y gwasanaethau mawr ym mhrif gorff y brifeglwys. (Mae'r brifeglwys hefyn yn gartref i gapel Trefn San Michael a St Siôr.) Deilir gwasanaethau crefyddol y Drefn pob pedair mlynedd, yn y gwasanaethau rhain swyddogir Marchogion a Bonesigau newydd, neilltuwyd y capel yn 1960.
[golygu] Blaenoriaeth a Breintiau
Gwobrwyir alodau'r drefn safle yn y drefn blaenorieth. Mae gwrageth dynion y drefn hefyd yn ymddangos yn y flaenoriaeth, yn ogystal a meibion, merched a merched-yg-nghyfraidd Merchod y Groes Fawr a Marchog Cadlywydd; ni ddengs perthnasau merched y drefn unrhyw flaenoriaeth arbennig. Gall perthnasau ennill blaenoriaeth, fel rheol cyffredin, gan eu tadau a'u gwyr, ond nid gan e mamau a'u gwragedd.
[golygu] Diddymiadu
- 1921: Cymerwyd anrhydedd OBE Cecil Malone oddiarno (gwobrwywyd 1919), yn dilyn ei gyhuddiaeth yn ôl Deddf Amddifyniaeth y Deyrnad (Caffaeliad Tir) 1920.[2]
- 1940: Cymerwyd anrhydedd CBE Vidkun Quisling oddiarno (gwobrwywyd 1929), yn dilyn ei gydweithrediad â'r Yr Almaen Naziaidd yn eu meddiant o Norwy.
- 1949: Cymerwyd anrhydedd OBE Man Wai Wong oddiarno (gwobrwywyd 1947), yn dilyn ei gyhuddiaeth am ymddygiad anghyfreithlon yn Malaya.[3]
- 1965: Cymerwyd anrhydedd OBE Kim Philby oddiarno (gwobrwywyd 1946), yn dilyn ei amlygiad fel asiant ddwbl.[4]
- 1975: Cymerwyd anrhydedd MBE William Spens oddiarno (gwobrwywyd 1954), yn dilyn ei gyhuddiaeth am ddwyn.[5]
- 1980: Cymerwyd anrhydedd KBE Albert Henry oddiarno (gwobrwywyd 1974), yn dilyn ei gyhuddiaeth o dwyll etholaethol.[6]
- 1988: Cymerwyd anrhydedd OBE Lester Piggott oddiarno (gwobrwywyd yn 1975), yn dilyn ei gyhuddiaeth o dwyll treth tax fraud.[7]
- 2006: Cymerwyd anrhydedd MBE Michael Eke oddiarno (gwobrwywyd yn 2003) yn dilyn ei gyhuddiaeth am ddwyn a thwyllo.[8]
- 2006: Cymerwyd anrhydedd MBE Naseem Hamed oddiarno (gwobrwywyd yn 1999) yn dilyn ei gyhuddiaeth o yrru'n beryglus.[9]
[golygu] Beirniadaeth
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Beirniadodd John Lennon y drefn filwrol yn hallt gan ddweud:
- Saesneg: "Lots of people who complained about us receiving the MBE received theirs for heroism in the war - for killing people. We received ours for entertaining other people. I'd say we deserve ours more."
[golygu] Nodiadau
- ↑ Yn y llun hon, mae derbynydd yr anrhydedd hefyd wedi eu derbyn i Drefn Feneral San John, felly dengys y bathodyn hwnnw hefyd, ar y rhuban du ar y dde.
- ↑ The London Gazette, 24 Mehefin 1921.
- ↑ The London Gazette, 20 December 1949.
- ↑ The London Gazette, 10 August 1965. Retrieved 28 Feb 2007.
- ↑ The London Gazette, 18 July 1975. Retrieved 28 Feb 2007.
- ↑ The London Gazette, 11 April 1980. Retrieved 28 Chwefror 2007.
- ↑ The London Gazette, 6 Mehefin 1981.
- ↑ MBE conman is stripped of honour
- ↑ 'Prince' Naseem stripped of MBE after time in jail for car crash
[golygu] Ffynhonellau
- www.honours.gov.uk
- Cambridge University Heraldic and Genealogical Society. (2002). The Most Excellent Order of the British Empire.
- Peter Galloway, The Order of the British Empire, Cyhoeddwyr: Central Chancery of the Orders of Knighthood Cyhoeddwyd: 1996 ISBN: 0-907605-65-6
- "Knighthood and Chivalry." (1911). Encyclopædia Britannica, 11th ed. London: Cambridge University Press.
- Velde, F. R. (2003). "Order of Precedence in England and Wales.