Ynysoedd Cook
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: dim | |||||
Anthem: Te Atua Mou E | |||||
Prifddinas | Avarua | ||||
Dinas fwyaf | Avarua | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Maori Ynysoedd Cook |
||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||||
- Pennaeth gwladwriaeth | Y Frenhines Elisabeth II |
||||
- Cynrychiolydd y Frenhines | Syr Frederick Goodwin |
||||
- Prif Weinidog | Jim Marurai |
||||
Gwladwriaeth gysylltiol - Ymreolaeth mewn perthynas rydd â Seland Newydd |
4 Awst 1965 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
236 km² (209fed) dibwys |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
18,700 (218fed) 18,027 79/km² (117eg) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $183.2 miliwn (*) $9,100 (*) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (*) | * (*) – * | ||||
Arian cyfred | Doler Seland Newydd 1 (NZD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-10) | ||||
Côd ISO y wlad | .ck | ||||
Côd ffôn | +682 |
||||
1 Defnyddir Doler Ynysoedd Cook hefyd. |
Grŵp o bymtheg ynys yn Polynesia yn ne'r Cefnfor Tawel, sy'n gorwedd rhwng Polynesia Ffrengig a Ffiji yw Ynysoedd Cook.
Arwynebedd tir yr ynysoedd yw 240km² yn unig, ond mae eu hardal economiadd forol yn cynnwys dros 2 filiwn km². Cyfanswm poblogaeth yr ynysoedd yw 21,388. Mae'r brifddinas Avarua ar y brif ynys, Rarotonga. Gorweddant rhwng 9 ac 20 gradd o hydred y de.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Rhennir yr ynysoedd, a'r wlad, yn fras yn ddau grŵp, Grŵp y De a Grŵp y Gogledd.
Mae ynysoedd Grŵp y De, sy'n cynnwys Rarotonga, Aitutaki, Atiu, Mangaia, Manuae, Mauke, Mitiaro, Ynys Palmerston a Takutea, o ffurfiad fwlcanaidd uchel (hyd at 632m yn achos Rarotonga) gyda phridd ffrwythlon a thyfiant trofaol cyfoethog. Yr eithriadau yw atolau bach Manuae a Palmerston, ac mae Takutea yn forfa (key) dywodlyd. Rhyngddynt mae ynysoedd Grŵp y De yn cynrychioli tua 90 y cant o gyfanswm arwynebedd tir Ynysoedd Cook. Rarotonga yw'r ynys fwyaf (6,719 hectar) a Takutea yw'r lleiaf (122 hectares).
Yng Ngrŵp y Gogledd ceir Manihiki, Nassau, Tongareva (Ynys Penrhyn), Pukapuka, Rakahanga a Suwarrow. Ac eithrio Nassau, sy'n forfa dywodlyd, mae'r ynysoedd hyn i gyd yn atolau coral isel a chanddynt dyfiant prin (coed cnau cocos a pandanus, er enghraifft) a lagŵns mawr. Ynys Penrhyn yw'r ynys fywaf (984 hectar) a Suwarrow yw'r lleiaf (40 hectar).
Mae yna bellteroedd sylweddol rhwng yr ynysoedd. Yr ynys allanol agosaf i'r brif ynys Rarotonga yw Mangaia (204km) a'r bellaf i ffwrdd yw Penrhyn (1,365km). Y ddwy ynys sydd bellach i ffwrdd o'i gilydd yw Pukapuka, yn Ngrŵp y Gogledd, a Mangaia yng Ngrŵp y De, sy'n 1,470km oddi wrth ei gilydd.
Mae Rarotonga tua 3,010 km i'r gogledd-ddwyrain o Auckland yn Seland Newydd, 1,140 km i'r de-orllewin o Tahiti, 2,300km i'r dwyrain o Ffiji a 4,730 km i'r de o Hawaii.
[golygu] Hinsawdd
Mae gan yr ynysoedd hinsawdd gefnforol drofannol ac iddi ddau dymor. Yn ystod y tymor sych, o Ebrill i Dachwedd, ceir tymheredd o tua 26 gradd sentigradd ar ei uchaf a tua 20 gradd ar ei isaf. Mae'r tymor gwlypach, mwy glos, yn ymestyn rhwng Rhagfyr a mis Mawrth, gyda thymheredd o tua 28 gradd sentigradd ar ei uchaf a tua 22 gradd ar ei isaf. Yn ystod y tymor hwnnw mae Ynysoedd Cook yn tueddu i gael ystormydd trofannol cryf a chorwyntoedd yn ogystal ar adegau.
[golygu] Hanes
[golygu] Diwylliant
Mae trigolion brodorol Ynysoedd Cook yn Maori (Maori Ynysoedd Cook), grŵp ethnig Polynesiaidd sy'n perthyn yn agos i frodorion ynysoedd Tahiti a phobl Maori Seland Newydd. Sieredir Maori Ynysoedd Cook a Saesneg ar yr ynysoedd.
Mae'r ymadrodd Kia Orana ("Hir Oes i chi!") bron iawn yn arwyddair genedlaethol.