Theorem pwynt arhosol Banach
Oddi ar Wicipedia
Mae theorem pwynt arhosol Banach (hefyd theorem mapiadau cyfangiadol neu egwyddor mapiadau cyfangiadol) yn arf pwysig mewn haniaeth gofodau metrig; mae'n sicrhau bodolaeth ac unigrwydd pwyntiau arhosol ffwythiannau arbennig o ofodau metrig, ac yn rhoi dull o ganfod y pwyntiau hynny. Enwyd y theorem ar ol Stefan Banach (1892-1945), ac fe'i mynegwyd yn gyntaf ganddo ym 1922.
[golygu] Y theorem
Gadewch i (X, d) fod yn ofod metrig cyflawn. Gadewch i T : X → X fod yn ffwythiant cyfangiadol ar X, hynny yw: mae yna rhif real q nad yw'n negatif sy'n bodlonni
ar gyfer pob x ac y in X. Yna, mae gan y ffwythiant T bwynt arhosol unigryw x* mewn X (golyga hyn fod Tx* = x*). Ymhellach, gellir canfod y pwynt arhosol fel a ganlyn: cychwynwch gydag elfen mympwyol x0 o X, a diffiniwch dilyniant iterus gyda xn = Txn-1 ar gyfer n = 1, 2, 3, ... Mae'r dilyniant hwn yn cydgyfeirio, a'i derfan yw x*.
Mae'r anhafaledd canlynol yn disgrifio cyflymder y cydgyfeiriad:
- .
Yn gyfystyr, mae
a
- .
Fe gelwir y q lleiaf posib o'r fath yn gysonyn Lipschitz.
Noder fod y gofyniad fod d(Tx, Ty) < d(x, y) ar gyfer x ac y yn anhafal, yn annigonol i sicrhau bodolaeth pwynt arhosol, fel ddengys y ffwythiant T : [1,∞) → [1,∞) gyda T(x) = x + 1/x, sydd heb bwynt arhosol. Fodd bynnag, os y mae'r gofod X yn gryno, yna mae'r gofyniad gwanach hwn yn ddigonol ar gyfer canlyniadau'r theorem.
Wrth ddefnyddio'r theorem yn ymarferol, y darn anoddaf yn aml yw i ddiffinio'r ffwythiant X fel fod T yn mapio elfennau o X i X, hynny yw, fod Tx pob tro'n elfen o X.