Shanghai
Oddi ar Wicipedia
Shanghai (Tsieinëeg: 海|海 Shànghǎi ?/i ) yw dinas fwyaf Gweriniaeth Pobl China. Saif ar lan Afon Yangtze yn nwyrain China. Gyda phoblogaeth o 20,609,000 yn yr ardal ddinesig, saif yn wythfed o ran dinasoedd y byd yn ôl poblogaeth.
Mae Shanghai yn un o borthladdoedd prysuraf y byd, ac mae wedi bod yn ganolbwynt i gynnydd economaidd China yn y blynyddoedd diwethaf.
Cofnodir tŵf Shanghai o'r 10fed ganrif ymlaen. Adeiladwyd muriau'r ddinas yn 1553, ond dim ond yn y 19eg ganrif y daeth yn ddinas bwysig.