Sgiwen y Gogledd
Oddi ar Wicipedia
Sgiwen y Gogledd | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Sgiwen y Gogledd (chwith) yn ymosod ar Wylan Goesddu
|
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Stercorarius parasiticus (Linnaeus, 1758) |
Mae Sgiwen y Gogledd (Stercorarius parasiticus ) yn aderyn môr sy'n aelod o deulu'r Stercorariidae, y sgiwennod.
Mae Sgiwen y Gogledd yn un o'r lleiaf o'r sgiwennod, tua 41 cm o hyd. Mae'n nythu yn rhannau gogleddol Ewrop, Asia a Gogledd America, ar dir agored fel rheol. Dodwyir hyd at bedwar wy, ac mae'r aderyn yn ymosod ar unrhyw anifail sy'n dod yn rhy agos at y nyth, gan gynnwys bodau dynol. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de i dreulio'r gaeaf.
Pan mae'n nythu mae Sgiwen y Gogledd yn bwydo ar wahanol fathau o lygod, ond un o'i brif ddulliau o fwydo yw dwyn bwyd oddi ar adar eraill, megis gwylanod a morwenoliaid. Mae'n eu hymlid nes iddynt ollwng unrhyw fwyd sydd ganddynt.
Fel nifer o'r sgiwennod eraill, mae gan Sgiwen y Gogledd nifer o ffurfiau gyda lliwiau gwahanol. Gall fod yn frown tywyll i gyd, neu gall fod a bol gwyn, cefn brown, cap du a'r gweddill o'r pen a'r gwddf bron yn wyn. Mae hefyd ffurf arall sydd rhywle yn y canol rhwng y ddau arall. Beth bynnag eu lliw, maent i gyd yn dangos darn gwyn ar yr adenydd, ac mae y plu yng nghanol y gynffon yn hirach na'r gweddill ac yn dod allan yn big. Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng Sgiwen y Gogledd a'r sgriwennod eraill, yn enwedig y ffurf dywyll ac adar ieuanc.
Nid oes cofnod i Sgiwen y Gogledd nythu yng Nghymru, er fod cryn nifer yn nythu yng ngogledd Yr Alban. Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas glannau Cymru yn yr hydref, a gellir gweld nifer llai yn y gwanwyn ac ambell un yn ystod y gaeaf.