Namibia
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Unity, Liberty, Justice (Cymraeg:Undeb, Rhyddhad, Cyfraith) |
|||||
Anthem: Namibia, Land of the Brave | |||||
Prifddinas | Windhoek | ||||
Dinas fwyaf | Windhoek | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Prif Weinidog |
Hifikepunye Pohamba Nahas Angula |
||||
Annibyniaeth - Dyddiad |
Oddiwrth De Affrica 21 Mawrth 1990 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
824,292 km² (34fed) - |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2002 - Dwysedd |
2,031,000 (144fed) 1,820,916 2.5/km² (225fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $15.14 biliwn (123fed) $7,478 (83fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.626 (125fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Doler Namibiaidd (NAD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
WAT (UTC+1) WAST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .na | ||||
Côd ffôn | +264 |
Gweriniaeth yn ne-orllewin Affrica yw Gweriniaeth Namibia neu Namibia. Mae hi ar arfordir Cefnfor Iwerydd ac mae'n ffinio ar Angola a Zambia i'r gogledd, Botswana i'r dwyrain a De Affrica i'r de. Daeth yn annibynnol o Dde Affrica yn 1990. Windhoek ydyw'r brifddinas.
[golygu] Iaith
Fel y rhan fwyaf o wledydd Affrica, mae Namibia yn gymysg o ran iaith, ond mae Oshiwambo yn famiaith i tua hanner y boblogaeth, pobl dduon yn gyffredinol. Afrikaans ydyw iaith y rhan fwyaf o'r bobl gwynion o dras Ewropeaidd, tua 5% o boblogaeth y wlad, ac mae tua 30,000 o siaradwyr Almaeneg hefyd. Ond collodd y ddwy iaith hyn eu statws swyddogol yn 1990 pan wnaed y Saesneg yn unig iaith swyddogol.
[golygu] Crefydd
Gwlad Gristnogol ydyw Namibia gan fwyaf. Yr eglwys Lutheraidd ydyw'r eglwys fwyaf, ac wedyn yr Eglwys Gatholig. Mae tua 3% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, yn enwedig llwyth y Namaqua.