See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
John Evans (Y Bardd Cocos) - Wicipedia

John Evans (Y Bardd Cocos)

Oddi ar Wicipedia

Y Bardd Cocos
Y Bardd Cocos

Cymeriad hynod a rhigymwr unigryw oedd John Evans neu Y Bardd Cocos (1826 - 1888), a aned ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn. Roedd yn hel cocos o'r traeth i ennill ei damaid a dyna a barwyd iddo gael ei lys enw ar ôl iddo ddod yn adnabyddus am ei gerddi anfwriadol ddigrif ac ysmala. Roedd ganddo feddwl mawr ohoni'i hun fel bardd yn arbennig ar bynciau mawr y dydd fel 'Suddo'r Royal Charter' (mewn hyn o beth roedd yn dilyn ffasiwn beirdd eisteddfodol ei ddydd). Yr oedd y llewod ar y Bont Britannia newydd er enghraifft yn,

'Pedwar llew tew
Heb ddim blew,
Dau ochr yma
A dau ochr drew.'

Ymarddelai'r teitl rhwysgfawr 'Archfardd Cocysaidd Tywysogol'. Yn ei draethawd 'Gwaith yr Awen Rydd a Chaeth' mae'n esbonio fod 'gwaith yr archfardd yn waith caled, fel gwaith ceffyl, yn yr oes bresennol' gan fod neb llawer yn gwerthfawrogi ei ddoniau. Serch hynny roedd ganddo wir athrylith ddiniwed ac mae rhai o'i rigymau yn haeddianol enwog. Dyma enghraifft arall o'i waith, pennill agoriadol ei 'Gân Newydd ar Briodas y Prince of Wales':

'Mae Prince of Wales wedi priodi
A miloedd heddyw'n byw mewn tlodi;
Gobeithio y ceiff hir oes,
Heb ddyodde'r un loes,
I fyw yn llawen ac yn llon
Efo'i fenw gron,
A handlo ffon, yn bur llon, o don i don,
Cyn rhoddi ffarwel i'r ddaear hon.'

Daeth sawl rhigymwr arall i herio ei deitl, fel Elias Jones (Cocosfardd y De) er enghraifft, ac enillodd y geiriau 'cocosfardd' 'cocoswaith' a 'cocosaidd' eu lle yn y geiriaduron, ond ni all neb gystadlu a'r Archfardd ei hun.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Alaw Ceris (Thomas Roberts), "Bardd Cocos": Ei Hanes, Ei Swydd, ynghyd a'i Weithiau Barddonol (Porthaethwy, 1923)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -