Gwener (planed)
Oddi ar Wicipedia
Gwener yw'r ail blaned yng Nghysawd yr Haul, 67,200,000 milltir oddi wrth yr Haul ar gyfartaledd, wedi'i henwi ar ôl duwies Rufeinig cariad.
Nid oes planed sy'n cyrraedd mor agos i'r Ddaear â Gwener pan bo hi ar ei hagosaf atom, sy'n cyrraedd o fewn 24 miliwn milltir i'n planed. Mae hi o gwmpas yr un maint, cyfaint (0.92), trwch (4.99 ar raddfa seiliedig ar drwch dŵr) a chrynswth (0.81) â'r Ddaear. Mae awyrgylch Gwener yn drwm ac yn niwlog ac o ganlyniad mae ei wyneb yn guddiedig; mae'r niwl yn adlewyrchu golau'r haul hefyd ac mae hynny'n ei gwneud hi'n un o'r gwrthrychau mwyaf disglair yn y nefoedd. Mae probau diweddar wedi darganfod fod wyneb y blaned wedi'i britho â chraterau a rhychau, nid annhebyg i'r rhai a welir ar wyneb y Lleuad.
Planedau: Mercher | Gwener | Y Ddaear | Mawrth | Iau | Sadwrn | Wranws | Neifion |