Geto
Oddi ar Wicipedia
Enw ar ardal ddifreinitedig neu slwm a breswylir yn bennaf gan leiafrif ethnig yw geto.
Yn wreiddiol, roedd geto yn enw ar ardal mewn dinas a neilltuid ar gyfer Iddewon gan y gyfraith. Dechreuodd yr arfer yn yr Eidal yn ystod yr Oesoedd Canol ac ymledodd oddi yno i nifer o wledydd Ewropeaidd eraill yn ystod y Gwrth-Ddiwygiad ac ar ôl hynny.
Yn ystod y 19eg ganrif dileuwyd y cyfyngiadau cyfreithiol, a pharheai getoau i fodoli am resymau cymdeithasol a diwylliannol yn unig.
Ond yn y 1930au ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd creuwyd getoau newydd gan y Natsïaid, er enghraifft yn Warsaw.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.