See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Gŵydd Ddu - Wicipedia

Gŵydd Ddu

Oddi ar Wicipedia

Gŵydd Ddu

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Branta
Rhywogaeth: B. bernicla
Enw deuenwol
Branta bernicla
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Ŵydd Ddu (Branta bernicla) yn ŵydd o'r genws Branta. Mae'n ŵydd weddol fychan, tua 60 cm o hyd, gyda cynffon fer.

Mae tair is-rywogaeth o'r Ŵydd Ddu:

  • Gŵydd Ddu Fol-dywyll Branta bernicla bernicla
  • Gŵydd Ddu Fol-olau Branta bernicla hrota
  • Branta bernicla nigricans

Gellir adnabod yr Ŵydd Ddu Fol-dywyll (a ddangosir yn y llun) trwy nad oes llawer o wahaniaeth lliw rhwng y pen, y cefn a'r ystlys a'r bol, er fod yr ystlys a'r bol ychydig yn oleuach. Mae darn bach gwyn ar ocht y gwddf. Mae'r is-rywogaeth yma yn nythu yng ngogledd Siberia ac yn treulio'r gaeaf yng ngorllwein Ewrop, gyda'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ne Lloegr a'r rhan fwyaf o'r gweddill yng ngogledd Yr Almaen a gogledd Ffrainc. Mae niferoedd llai, ychydig o gannoedd, yn gaeafu yng Nghymru, y rhan fwyaf ar arfordir y de.

Mae'r Ŵydd Ddu Fol-olau yn edrych yn llawer goleuach, gyda gwahaniaeth mawr rhwng y pen a'r gwddf, sy'n ddu, a'r ystlys a'r bol sy'n llwyd golau iawn. Mae'r math yma yn nythu yn y gorllewin, yn enwedig gogledd Canada a'r ynysoedd o gwmpas. Mae'n gaeafu yn Iwerddon, Denmarc ac ar hyd arfordir dwyreiniol Unol Daleithiau America. Ar un adeg yr oedd yr is-rywogaeth yma yn bur brin yng Nghymru ond mae'r nifer sy'n gaeafu yma wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn y gogledd yn bennaf, a gellir gweld heidiau o hyd at 150 ar Ynys Môn.

Fel rheol mae'n treulio'r gaeaf ar yr arfordir, lle mae'n bwydo ar y planhigyn Zostera marina a math o wymon y môr, Ulva. Yn ddiweddar mae wedi dechrau bwydo ar gaeau hefyd, efallai oherwydd fod poblogaeth yr ŵydd yma wedi cynyddu'n sylweddol iawn dros yr ugain mlynedd diwethaf.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -