Beic
Oddi ar Wicipedia
Mae beic yn gerbyd gyda dau olwyn yr ydych yn beicio arno. Does dim rhaid am dannwydd; pwer eich traed sy'n symud y cerbyd ymlaen. Felly mae'n ffordd lan a chynaladwy i deithio.
Mae rhai o feicwyr yn beicio mewn rasus, rhai eraill am hwyl neu deithio o A i B. Gwisgo helmed ydy un ffordd cyffredin i gadw'n saff ar feic; gosod cônau yn yr heol er mwyn stopio'r ceir ydy llall (llai cyffredin).
[golygu] Mathau o feiciau
Beiciau rasio a beiciau mynydd ydy dau o'r mathau mwyaf poblogaidd o feiciau, yn ogystal a beiciau cyffredinol ar gyfer siopau neu deithio i'r gwaith ac ati.
Mae beiciau sy'n plygu ar gael er mwyn mynd a nhw ar drenau, awyrennau etc.
Tandem ydy'r enw am feic ar gyfer dau berson. Mae beiciau ar gyfer un person yn cael eu defnyddio gan dau berson weithiau hefyd -- mae un plentyn ar y cyfrwy yn "rhoi backie" i blentyn arall uwch yr olwyn ôl -- ond mae'n eitha beryglus.
[golygu] Beicio yng Nghymru
Mae amgueddfa beicio yn Llandrindod, Powys.
Ni chaniateir ichi feicio ar y traffordd...
...ond mae lôn i feicwyr (a cherddwyr) ar yr hen bont Hafren - heb fod rhaid ichi dalu,
...ac ar Bont y Borth ni chaniateir goddiweddyd - "ac eithro beic gan feic".