Tan-y-grisiau
Oddi ar Wicipedia
Hen bentref chwarel yw Tan-y-grisiau (hefyd Tanygrisiau), ger Blaenau Ffestiniog yn Ngwynedd.
Codwyd y pentref ar gyfer y chwarelwyr a weithiai yn chwareli'r Moelwynion, uwchlaw'r pentref i'r gogledd.
Yn agos i Dan-y-grisiau mae argae Llyn Stwlan, rhwng Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach, â'i phwerdy trydan dŵr. Mae ffordd o'r pentref yn dringo i fyny iddo a cheir canolfan ymwelwyr yno.
Mae Rheilffordd Ffestiniog, sy'n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Phorthmadog, yn mynd trwy'r pentref ac yn atyniad twristaidd pwysig yn yr haf.
[golygu] Enwogion
- Brodor o Dan-y-grisiau oedd y bardd ac emynydd Moelwyn (1866-1944). Roedd ei emynau'n boblogaidd iawn ar droad yr 20fed ganrif.
- Bardd arall o'r pentref oedd Lewis Moelwyn Jones (Lewis Moelwyn).
- Bu'r bardd a diwygiwr cymdeithasol Silyn yn weinidog yn Nhan-y-grisiau o 1905 hyd 1912.
- Gwyn Thomas - cafodd y bardd ac ysgolhaig ei eni yn y pentref yn 1936.
[golygu] Gweler hefyd
- Helynt Brewer Spinks, pan geisiodd rheolwr ffatri leol wahard y Gymraeg yn y gweithle.