Corris
Oddi ar Wicipedia
Mae Corris yn bentref yn ne Gwynedd. Credir mai tarddiad Saesneg sydd i'r enw, o quarries. Ar un adeg gelwid y pentref yn Abercorris (Abercorys ar rai mapiau cynnar). Roedd y pentref ar yr hen ffordd dyrpeg o Ddolgellau i Fachynlleth; mae priffordd yr A487 a gymerodd ei lle yn osgoi canol y pentref.
Saif Corris ar lan orllewinol Afon Dulas, sy'n ffin rhwng Gwynedd a Phowys yma. Mae Afon Deri yn llifo trwy'r pentref ei hun cyn ymuno ag Afon Dulas. Yn ôl pob tebyg yr oedd ffordd Rufeinig Sarn Helen hefyd yn rhedeg trwy'r pentref.
Ar un adeg yr oedd nifer o chwareli llechi yma. a defnyddid Rheilffordd Corris i gludo'r llechi i Fachynlleth ac ymlaen at Afon Dyfi i'w llwytho i gychod o'r cei yn Derwenlas neu Morben. Mae rhan o't hen reilffordd wedi ei ail-agor, o Gorris i Gyffordd Maespoeth.