Abergynolwyn
Oddi ar Wicipedia
Mae Abergynolwyn yn bentref bychan yng Ngwynedd, gerllaw Afon Dysynni. Ar un adeg yr oedd diwydiant llechi pwysig yn yr adral yma, a sefydlwyd y pentref yn y 1860au ar gyfer gweithwyr yn Chwarel Bryn Eglwys gerllaw yn Nant Gwernol. Heddiw ffermio a thwristiaeth yw’r prif ddiwydiannau. Cynhelir eisteddfod flynyddol yno.
Gerllaw’r pentref mae Rheilffordd Talyllyn, Llyn Mwyngil, Castell y Bere ger pentref cyfagos Llanfihangel-y-pennant a Craig yr Aderyn lle mae bryngaer o Oes yr Haearn ac amrywiaeth diddorol o adar.
[golygu] Llyfryddiaeth
• Jones, Caradog ‘’ Braslun o hanes pentref Abergynolwyn a chwareli Bryneglwys’’ (Abergynolwyn : Pwyllgor Amgueddfa'r Pentref, 1983)