Bontnewydd (Arfon)
Oddi ar Wicipedia
- Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Bontnewydd.
Mae Bontnewydd yn bentref gweddol fawr ar y briffordd A487 fymryn i'r de o Gaernarfon. Daw'r enw o'r bont dros Afon Gwyrfai a adeiladwyd yn y 18fed ganrif, er bod pont arall wedi cymeryd ei lle erbyn hyn.
Ar un adeg yr oedd Bontnewydd yn cael ei rannu rhwng plwyfi Llanbeblig a Llanwnda, gydag Afon Gwyrfai fel ffin rhyngddynt. Y tŷ hynaf yma yw Plas Dinas, a adeiladwyd yn y 17eg ganrif, sydd a gweddillion caer Dinas Dinoethwy o Oes yr Haearn o'i gwmpas.
Yn y Bontnewydd y magwyd y gwleidydd adnabyddus Dafydd Wigley.