Rhyd-Ddu
Oddi ar Wicipedia
Rhyd-Ddu Gwynedd |
|
Pentref yng Ngwynedd yw Rhyd-Ddu, ar lôn yr A4085 rhwng Caernarfon a Beddgelert. Mae wedi ei leoli ar ben uchaf Dyffryn Nantlle, ym Mharc Cenhedlaethol Eryri.
Gorwedd Rhyd-Ddu gerllaw llethrau gorllewinol Yr Wyddfa, ac mae llwybr i gopa'r Wyddfa yn cychwyn o'r pentref. Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru wedi ei hail-agor o Gaernarfon cyn belled â Rhyd-Ddu.
Mae'r pentref hefyd yn enwog fel man geni'r llenor T.H. Parry-Williams yn Nhŷ'r Ysgol.