Afon Gwyrfai
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Gwyrfai yn afon yn ardal Arfon, yng Ngwynedd, gogledd Cymru. Yn Oes y Tywysogion roedd yn dynodi'r ffin rhwng dau gwmwd Cantref Arfon, sef Arfon Is-Gwyrfai ac Arfon Uwch-Gwyrfai.
Mae Afon Gwyrfai yn tarddu yn Llyn y Gadair wrth droed Mynydd Drws-y-coed, gerllaw pentref Rhyd-ddu yn Eryri. Arferai'r llenor adnabyddus T.H. Parry-Williams chwarae ar lan yr afon yn blentyn ac mae ganddo atgofion amdani mewn rhai o'i ysgrifau.
O Ryd-ddu mae'n llifo tua'r gogledd i gyrraedd Llyn Cwellyn. Ar ôl llifo trwy'r llyn, mae'r afon yn llifo ymlaen tua'r gogledd mewn cwm mynyddig trwy gymunedau gwledig Salem a Betws Garmon hyd nes cyrraedd pentref Waunfawr, lle mae'n troi tua'r gorllewin. Ar ôl llifo hyd nant goediog mae'n pasio pentref Bontnewydd, a enwir ar ôl y bont o'r 18fed ganrif sy'n croesi'r afon yno. Mae'n cyrraedd y môr ym Mae'r Foryd ger Llanfaglan, i'r gorllewin o dref Caernarfon, ac yn arllwys ei dŵr i Afon Menai.