Iau (duw)
Oddi ar Wicipedia
Iau oedd brenin y duwiau yn chwedloniaeth Groeg (a'i alwaodd yn Zeus) a Rhufain (a'i alwodd wrth ei enw Lladin Iuppiter neu Iovis yn y modd genidol). Rhoddodd ei enw i Iau, y planed mwyaf yng nghysawd yr Haul ac enwyd diwrnod o'r wythnos ar ôl, Iovis dies, a ddaeth i'r Gymraeg fel Dydd Iau.
Roedd Iau yn briod i Juno (Hera yng Ngroeg) ond yn anffyddlon ac yn cael nifer o berthnasau gyda duwiesau a merched meidrol. Ei blant gyda Juno oedd Hebe, Mawrth a Fwlcan (Hephaestos).
Ymysg plant gordderch niferus Iau oedd Apollo a Diana (Artemis) gyda'r ffigur dirgel Latona (neu Leto); Mercher gyda Maia, merch Atlas; Bacchus, duw gwin, gyda Semele, merch Cadmus; Proserpina (Persephone) gyda'r dduwies Ceres (Demeter); a'r arwr Ercwlff gyda'r ferch meidrol Alcmene.
Byddai Iau yn aml yn cymryd ffurf arall i guddio oddi wrth Juno neu ddod yn agosach at ei gariadon. Fe hudodd Iau Leda, Brenhines Sparta wedi'i guddwisgo fel alarch a chawsant yn blant yr efeilliaid Castor a Pollux. Cafodd berthynas ag Io, merch y duw Inachus, wedi'i guddwisgo fel cwmwl fel na byddai ei wraig yn ei ddatgelu, ond yn ofer.
Gwnaed Iau yn nawdd dduw ar yr Ymerodraeth Rhufeinig, gyda'r teitl Iuppiter Optimus Maximus (Iau y Goruchaf a'r mwyaf). Dyma oedd yr enw ar y deml mwyaf yn Rhufain.
Roedd yr eryr a'r taranfollt yn briodoleddau cyffredin gan Iau. Caiff ei bortreadu yn aml yn eistedd ar ei orsedd yn dal teyrnwialen.