Y Rhyfel Saith Mlynedd
Oddi ar Wicipedia
Y Rhyfel Saith Mlynedd | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Un o frwydrau mawr y Rhyfel Saith Mlynedd (llun gan Alexander Kotzebue, 1848) |
|||||||
|
|||||||
Brwydrwyr | |||||||
Teyrnas Prussia Teyrnas Prydain Fawr a'i Colonies Americanaidd Electorate of Brunswick-Lüneburg (Hanover) Iroquois Confederacy Teyrnas Portiwgal Principality of Brunswick-Wolfenbüttel Landgraviate of Hesse-Kassel |
Austria Teyrnas Ffrainc a'i Colonies Russian Empire Teyrnas Sweden Teyrnas Sbaen Electorate of Saxony Teyrnas Napoli a Sicily Teyrnas Sardinia |
||||||
Arweinwyr | |||||||
Frederick II Friedrich Wilhelm von Seydlitz John Manners Edward Boscawen Barwn Clive James Wolfe Barwn Amherst Ferdinand, dug Brunswick |
Count von Daun Franz Moritz von Lacy Charles Alexander of Lorriane Ernst von Laudon Louis XV Louis-Joseph de Montcalm Elisabeth Pyotr Saltykov Frederick Augustus II |
Yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763) roedd Teyrnas Prydain Fawr, Prwsia a Hanofer ar y naill ochr yn brwydro yn erbyn Ffrainc, Awstria, Sweden a Sacsoni ar y llall. Am fod y mwyafrif o wledydd mawr Ewrop yn ymrwymedig i'r rhyfel a bod brwydrau ledled Ewrop yn ogystal ac yn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Ganada, Unol Daleithiau America, India a'r Môr Caribî, gellir dweud fod hi wedi bod y wir "rhyfel byd cyntaf". Hwyrach, roedd Sbaen a Portiwgal yn cymryd rhan hefyd ac oedd ymosodiad ar byddyn yr Iseldiroedd yn India, er roedden nhw ei hunain yn amhleidiol.
Roedd y rhyfel hwn yn dilyn Rhyfel Olyniaeth Awstria, a adawodd nifer o broblemau heb eu datrys, er bod Ewrop yn newid yn gyflym gyda Ffrainc, Awstria a Rwsia, oedd wedi bod yn elynion ers ganrifoedd, yn cydweithio. Roedd hynny yn fygythiad i Brwsia - a roedd Prydain yn ddechrau poeni am Hanofer. Oblegid hynny, roedd yn naturol fod Prydain a Phrwsia yn cydweithio, hefyd. Achos arall y rhyfel roedd cystadleuaeth rhwng Prydain a Ffrainc ar gyfer gwladfeydd.
O ganlyniad i'r cytundebau heddwch a arwyddwyd ar 10 Chwefror, 1763 ym Mharis rhwng Prydain a Portiwgal ar y naill ochr a Ffrainc a Sbaen ar y llall, roedd pethau yn newid yn y gwladfeydd. Cafodd Prydain Fflorida o Sbaen a gorfodwyd i Ffrainc rhoi'r ardal i'r gorllewin i Afon Mississippi i Sbaen. Collodd Ffrainc Ganada, a'r ardaloedd i'r dwyrain i Afon Mississippi a'r ardaloedd o amgylch y Llynnoedd Mawr i Brydain. Fel hynny, doedd dim ond New Orleans, rhan gorllewinol Hispaniola (heddiw Haiti) a rhai ynysoedd eraill yn aros yn ddiriogaethau Ffrengig ar ôl y rhyfel. A chollodd Ffrainc ei thiriogaethau yn India, Senegambia (heddiw: Senegal a Gambia) ac ati i Brydain, hefyd.
Ar 15 Chwefror, 1763 arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng Prwsia a'i elynion oedd yn gwrthdroi y ffiniau i'r hyn yr oeddent o flaen y rhyfel.
O ganlyniad i'r rhyfel hwn daeth Prwsia i fod yn un o'r pump gwlad gryfaf Ewrop. Collodd Ffrainc bron ei holl wladfeydd ac felly daeth yn awyddus iawn i geisio dial ar Brydain. A daeth Prydain i fod y wlad gryfaf yn y byd, yn arbennig ar y môr, a chanddi'r gwladfeydd ehangaf.