See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Y Prydydd Bychan - Wicipedia

Y Prydydd Bychan

Oddi ar Wicipedia

Bardd o Ddeheubarth oedd Y Prydydd Bychan (c. 1200 - 1270), un o'r diweddaraf o Feirdd y Tywysogion. Canodd i dywysogion Deheubarth yn bennaf ond ceir yn ogystal cerddi i uchelwyr o Bowys a Gwynedd. Yn ogystal â'u gwerth llenyddol mae ei gerddi'n ddrych i wleidyddiaeth Cymru yn oes y ddau Lywelyn.

[golygu] Ei fywyd

Ychydig iawn a wyddys am y bardd ei hun a daw trwch y dystiolaeth amdano o'i gerddi. Mae ei enw bedydd yn anhysbys. Oherwydd ei enw awgrymir ei fod yn fab i Phylip Brydydd, a ganodd i dywysogion Deheubarth genhedlaeth o'i flaen (arferid cyfeirio at fab rhywun o'r un enw neu alwedigaeth gyda'r cyfenw 'Bychan'). Ar sail cyfeiriad gan y bardd Gwilym Ddu o Arfon at ddau fardd yng Ngheredigion "Philyp a Gwilym...", mae D. Myrddin Lloyd yn awgrymu mai Gwilym ap Philyp oedd enw'r Prydydd Bychan. Ar sail gwrthrychau ei farwnadau, gellir dweud fod y Prydydd Bychan yn canu yn y cyfnod 1222-1268, ac felly'n byw yn y cyfnod o tua 1200 hyd tua 1270.

Os gwir fod y Prydydd Bychan yn fab i Philyp Brydydd, mae hi bron yn sicr mai wrth draed ei dad y dysgodd ei grefft (fel yn achos Gwalchmai ap Meilyr gan ei dad Meilyr Brydydd ganrif yn gynt).

[golygu] Cerddi

Ceir 19 o gerddi (528 llinell) o waith y Prydydd Bychan yn Llawysgrif Hendregadredd, unig ffynhonnell ei waith. Canu mawl a marwnad yw'r gerddi sydd wedi goroesi i gyd.

Mae noddwyr y Prydydd Bychan yn perthyn i lysoedd Ceredigion a Deheubarth yn bennaf, ond canodd yn ogystal i noddwyr yng Ngwynedd a Phowys.

Canodd i Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn a Goronwy ap Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr, yng Ngwynedd. Ym Mhowys canodd i Gwên ap Goronwy, distain Gruffudd ap Gwenwynwyn. Canodd yn ogystal i uchelwyr yn y gogledd sydd fel arall yn anhysbys, megis Madog Môn, Bleddyn ap Dwywg a Llywelyn ap Rhys ab Iorwerth.

Mae bron y cyfan o'i noddwyr yn Neheubarth yn perthyn yn uniongyrchol i linach frenhinol Dinefwr, disgynyddion yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd, yn cynnwys Rhys Ieuanc ap Gruffudd (m. 1222), Rhys Gryg, Morgan ap Rhys, Owain ap Gruffudd a Chynan ap Hywel Sais. Canodd hefyd i Rys ap Llywelyn, distain Maredudd ab Owain o Ddeheubarth.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan', yn Rhian M. Andrews et al. (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.


Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -