See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Einion ap Madog ap Rhahawd - Wicipedia

Einion ap Madog ap Rhahawd

Oddi ar Wicipedia

Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yn ail chwarter y 13eg ganrif oedd Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237). Roedd yn fardd llys yn oes Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd.

Ychydig a wyddys am fywyd personol Einion. Hanai o deulu o gyfreithwyr Cymreig a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â Llanddyfnan ym Môn ond yn wreiddiol o ardal cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd diweddarach Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Enwir tad Einion, Madog ap Rhahawd, yn y testun achyddol 'Bonedd Gwŷr Arfon' a chofnodir 'gwely (tir teuluol) Gwyrion Rhahawd' yn ardal Dinas Dinlle, Uwch Gwyrfai, ar ddechrau'r 14eg ganrif.

Dim ond un gerdd o waith Einion ap Madog ap Rhahawd sydd wedi goroesi. Mae'r testun ar glawr yn Llawysgrif Hendregadredd a chwech llawysgrif diweddarach sy'n deillio o'r llawysgrif honno. Mae'n awdl foliant fer i Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Cafodd ei chyfansoddi ar ôl i Gruffudd gael ei ryddhau o gaethiwed yn 1234 a chyn ei ail-garcharu yn 1239, cyfnod pan reolai Gruffudd dros ei dir etifeddol yn Llŷn ac Eifionydd a rhan o Bowys, dan awdurdod ei dad, â'i lys yng Nghastell Cricieth yn ôl pob tebyg.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.


Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -