See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Gruffudd ap Gwrgenau - Wicipedia

Gruffudd ap Gwrgenau

Oddi ar Wicipedia

Yr oedd Gruffudd ap Gwrgenau (fl. tua 1175 - 1210) yn un o Feirdd y Tywysogion, a gysylltir â Gwynedd.

[golygu] Y bardd

Ni wyddys llawer o gwbl am fywyd y bardd. Ceir yr unig gyfeiriad cyfoes at ŵr o'r cyfnod yn ach teulu o Frycheiniog, lle nodir fod un o'i hynafiaid, Gruffudd ap Gwrgenau, wedi ei eni tua 1170, ond gan fod y bardd yn cael ei gysylltu â Gwynedd mae'n anhebygol mai'r un un ydoedd, er bod yr enw yn un pur anghyffredin.

[golygu] Ei waith

Dim ond dwy gerdd gan Gruffudd ap Gwrgenau sydd wedi goroesi. Mae un ohonynt yn awdl farwnad i Gruffudd ap Cynan ab Owain, arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Maredudd). Bu farw Gruffudd ap Cynan yn Abaty Aberconwy yn y flwyddyn 1200, yn ôl cofnod ym Mrut y Tywysogion. Mae'n wahanol i farwnadau arferol beirdd y cyfnod am ei fod yn pwysleisio breuder oes dyn ac yn erfyn i Dduw am faddeuant cyn symud i glodfori ei wrhydri a'i haelioni ar nodyn mwy confensiynol.

Mae'r ail gerdd yn gyfres fer o englynion yn cofnodi marwolaeth pedwar neu bump o gyfeillion y bardd - yn eu plith y bardd-ryfelwr Gwilym Rhyfel - sydd ar gywair lleddf a dwys. Mae'r gerdd yn perthyn i genre o gerddi i aelodau gosgordd a gyslltir a chanu'r bardd teulu. Unwaith eto ceir pwyslais ar freuder bywyd. Mae oes dyn fel oes drych (yr un mor fregus a diflanedig):

'Marw Merwydd hirlwydd, a'm hirwlych—dagrau,
Digrawn ynt a mynych;
Nid henaint gŵr a'i gwrthrych,
Nid hŷn oes dyn nog oes drych.'

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Morfudd E. Owen (gol.), 'Gwaith Gruffudd ap Gwrgenau', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'


Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -